ATODLEN 1CYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM
1Dehongli’r Atodlen
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “yr awdurdod priodol” (“the appropriate authority”)—
- a
pan fo’r Atodlen hon yn gymwys drwy rinwedd hysbysiad o dan adran 7, yw’r awdurdod lleol a roes yr hysbysiad, a
- b
pan fo’r Atodlen hon yn gymwys drwy rinwedd hysbysiad o dan adran 14, yw Gweinidogion Cymru;
- a
ystyr “corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal” (“a normally constituted governing body”) yw corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu);
ystyr “y cyfnod interim” (“the interim period”), o ran ysgol y mae hysbysiad o dan adran 7 neu 14 wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yw’r cyfnod y mae’r corff llywodraethu wedi ei gyfansoddi ynddo yn unol â’r Atodlen hon;
ystyr “llywodraethwyr presennol” (“existing governors”), o ran ysgol y mae hysbysiad o dan adran 7 neu 14 wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yw’r llywodraethwyr sy’n dal swydd yn union cyn y daw’r corff llywodraethu’n gyfansoddedig yn unol â’r Atodlen hon.
2
Yn yr Atodlen hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.
2Y corff llywodraethu i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan awdurdod priodol
1
Mae corff llywodraethu’r ysgol i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan yr awdurdod priodol, yn lle cael ei gyfansoddi’n unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Addysg 2002.
2
Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon—
a
cyfeirir at y corff llywodraethu fel y’i cyfansoddir yn unol â’r Atodlen hon fel “y bwrdd gweithrediaeth interim”, a
b
cyfeirir at aelodau’r corff llywodraethu fel y’u cyfansoddir felly fel “aelodau gweithrediaeth interim”.
3Effaith hysbysiad o dan adran 7 neu 14
1
Ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14, mae’r llywodraethwyr presennol yn gadael eu swydd.
2
Nid yw is-paragraff (1) yn atal llywodraethwr presennol rhag cael ei benodi’n aelod gweithrediaeth interim.
3
Yn ystod y cyfnod interim, mae unrhyw gyfeiriad mewn unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Deddfau Addysg, neu sydd wedi ei gwneud oddi tanynt, at lywodraethwr neu lywodraethwr sefydledig ysgol yn cael effaith, o ran yr ysgol, fel cyfeiriad at aelod gweithrediaeth interim.
4
Yn ystod y cyfnod interim, mae adran 83 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (addasu’r darpariaethau sy’n gwneud llywodraethwyr ysgol sefydledig neu wirfoddol yn ymddiriedolwyr ex officio) yn cael effaith o ran yr ysgol drwy roi yn lle paragraffau (a) i (c) gyfeiriad at yr aelodau gweithrediaeth interim.
4Nifer yr aelodau gweithrediaeth interim
1
Rhaid i nifer yr aelodau gweithrediaeth interim beidio â bod yn llai na dau.
2
Rhaid i benodiad cychwynnol aelodau gweithrediaeth interim gael ei wneud yn y fath fodd ag i ddod yn weithredol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.
3
Caiff yr awdurdod priodol benodi aelodau gweithrediaeth interim pellach ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim.
5Telerau penodi aelodau gweithrediaeth interim
1
Rhaid i bob penodiad aelod gweithrediaeth interim gael ei wneud drwy offeryn ysgrifenedig yn gosod telerau’r penodiad.
2
O ran aelod gweithrediaeth interim—
a
mae’n dal swydd yn unol â thelerau’r penodiad ac yn ddarostyngedig i baragraff 16, a
b
caniateir iddo gael ei symud o’i swydd gan yr awdurdod priodol am anghymhwyster neu gamymddygiad.
3
Caiff telerau penodi aelod gweithrediaeth interim ddarparu i’r penodiad fod yn derfynadwy gan yr awdurdod priodol drwy hysbysiad.
6Dyletswydd yr awdurdod priodol i hysbysu personau eraill
1
Rhaid i’r awdurdod priodol roi copi o’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ac o bob offeryn penodi aelod gweithrediaeth interim—
a
i bob aelod gweithrediaeth interim,
b
i bob llywodraethwr presennol yr ysgol,
c
os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, i Weinidogion Cymru,
d
os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, i’r awdurdod lleol, ac
e
yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—
i
i’r person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
ii
os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, i’r corff crefyddol priodol.
2
Nid yw methiant â chydymffurfio ag is-baragraff (1) yn annilysu’r hysbysiad na’r penodiad.
7Pŵer i bennu hyd cyfnod interim
Caiff yr awdurdod priodol bennu hyd y cyfnod interim yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.
8Cadeirydd
Caiff yr awdurdod priodol enwebu un o’r aelodau gweithrediaeth interim i fod yn gadeirydd y bwrdd gweithrediaeth interim.
9Cydnabyddiaeth a lwfansau
Caiff yr awdurdod priodol dalu i unrhyw aelod gweithrediaeth interim unrhyw gydnabyddiaeth a lwfansau y bydd yr awdurdod priodol yn eu penderfynu, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).
10Dyletswydd y bwrdd gweithrediaeth interim
1
Yn ystod y cyfnod interim, rhaid i’r bwrdd gweithrediaeth interim redeg yr ysgol yn y fath fodd ag i sicrhau, cyhyd â’i bod yn ymarferol gwneud hynny, bod sail gadarn yn cael ei darparu ar gyfer gwella yn y dyfodol y modd y mae’r ysgol yn cael ei rhedeg.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar ddyletswyddau eraill y bwrdd gweithrediaeth interim fel corff llywodraethu.
11Trafodion y bwrdd gweithrediaeth interim
1
Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim benderfynu ei weithdrefn ei hun.
2
Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim wneud unrhyw drefniadau y gwêl yn dda i unrhyw berson arall gyflawni ei swyddogaethau.
3
Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).
12Effaith ar atal dros dro gyllideb ddirprwyedig
1
Os nad oes gan yr ysgol, yn union cyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14, gyllideb ddirprwyedig, mae ataliad dros dro ar hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig wedi ei ddirymu yn rhinwedd yr is-baragraff hwn o’r dyddiad hwnnw.
2
Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (atal cyllideb ddirprwyedig dros dro am gamreoli etc) wedi ei roi i’r corff llywodraethu cyn y dyddiad a bennwyd mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ond nad yw wedi dod yn weithredol eto, mae effaith yr hysbysiad yn peidio ar y dyddiad hwnnw.
3
Yn ystod y cyfnod interim, ni chaiff yr awdurdod lleol arfer y pŵer a roddir gan adran 8 (pŵer i atal dros dro hawl i gael cyllideb ddirprwyedig).
4
Mae is-baragraff (1) i’w ddehongli’n unol ag adran 49(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
13Eithrio darpariaethau statudol penodol
1
Nid yw rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu) yn gymwys mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim.
2
Ond caniateir i reoliadau a wneir o dan adran 19(3)(f), (g), (i), (j), (k) neu (l) o Ddeddf Addysg 2002 (ac eithrio rheoliadau o dan adran 19(3)(l) sy’n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu) gael eu cymhwyso mewn perthynas â’r bwrdd (gydag addasiadau neu hebddynt) drwy reoliadau.
3
Nid yw offeryn llywodraethu’r ysgol yn cael effaith mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim i’r graddau y mae’n ymwneud â chyfansoddiad y corff llywodraethu.
4
Yn ystod y cyfnod interim—
a
ni chaiff yr awdurdod lleol arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol), a
b
ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 13 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol).
14Cau’r ysgol
1
Ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim, caiff y bwrdd gweithrediaeth interim, os gwêl yn dda, wneud adroddiad i’r awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru yn argymell y dylai’r ysgol gael ei therfynu, a chan ddatgan y rhesymau dros yr argymhelliad hwnnw.
2
Ni chaiff y bwrdd gweithrediaeth interim—
a
cyhoeddi o dan adran 43 gynigion i derfynu’r ysgol, na
b
cyflwyno hysbysiad o dan adran 80.
3
Bydd is-baragraff (4) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod interim—
a
bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81 mewn perthynas â’r ysgol, neu
b
bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu terfynu’r ysgol.
4
Mae’r cyfnod interim i barhau tan y dyddiad terfynu, hyd yn oed pan fyddai’n dod i ben fel arall cyn y dyddiad hwnnw.
5
Yn y paragraff hwn ystyr “y dyddiad terfynu” yw un o’r canlynol (yn ôl fel y digwydd)—
a
y dyddiad y bydd cynigion i derfynu’r ysgol yn cael eu gweithredu arno o dan Ran 1 o Atodlen 3;
b
y dyddiad y caiff yr ysgol ei therfynu arno o dan adran 80;
c
y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81(1).
15Hysbysu bod y corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal wedi ailddechrau llywodraethu
1
Bydd yr is-baragraff canlynol yn gymwys—
a
os nad yw’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, a
b
os nad yw paragraff 14(4) yn gymwys.
2
Caiff yr awdurdod priodol roi hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn pennu dyddiad pan fydd y corff llywodraethu’n dod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal.
3
Y personau hynny yw’r canlynol—
a
pob aelod gweithrediaeth interim,
b
os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, Gweinidogion Cymru,
c
os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, yr awdurdod lleol, a
d
yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—
i
y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
ii
os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
16Yr amser pan fydd aelodau gweithrediaeth interim yn peidio â dal eu swydd
1
Mae aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd—
a
mewn achos lle y mae is-baragraff (4) o baragraff 14 yn gymwys, ar y dyddiad terfynu o fewn ystyr y paragraff hwnnw,
b
mewn achos lle nad yw’r is-baragraff hwnnw yn gymwys a bod yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, ar ddiwedd y cyfnod penodedig, ac
c
mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad a bennir o dan baragraff 15(2).
2
Nid yw is-baragraff (1) yn atal terfynu penodiad aelod gweithrediaeth interim ynghynt o dan baragraff 5(2)(b) neu’n unol â thelerau ei benodiad.
17Sefydlu corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal
1
Pan fo aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd ar y dyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 16(1)(b) neu (c), rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi’r corff llywodraethu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
2
Caiff Gweinidogion Cymru wneud, drwy reoliadau, ddarpariaeth ynglyn â’r trosi o fwrdd gweithrediaeth interim i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, a chânt, mewn cysylltiad â’r trosi hwnnw—
a
addasu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan unrhyw un neu rai o adrannau 19, 20 a 23 o Ddeddf Addysg 2002 neu gan Atodlen 1 i’r Ddeddf honno,
b
cymhwyso unrhyw ddarpariaeth o’r fath gydag addasiadau neu hebddynt, ac
c
gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth o’r fath neu’n gyffelyb iddi.
3
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-baragraff (2) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth sy’n galluogi llywodraethwyr i gael eu hethol neu eu penodi, ac i arfer swyddogaethau, cyn diwedd y cyfnod interim.