ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
I1I226Trosglwyddiadau heb eu cwblhau
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys, yn union cyn y dyddiad gweithredu, mewn perthynas ag unrhyw newid categori sy’n digwydd mewn cysylltiad ag ysgol—
a
pan fo’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth statudol i drosglwyddo unrhyw dir a freiniwyd mewn awdurdod lleol i gorff llywodraethu neu i unrhyw ymddiriedolwyr yr ysgol, ond
b
pan nad yw’r tir hyd yn hyn wedi ei drosglwyddo felly.
2
Mae paragraffau 10 i 25 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ysgol fel pe bai’r tir wedi cael ei drosglwyddo felly erbyn yr adeg honno.