Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Trosglwyddo hawl i ddefnyddio tirLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

27(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw paragraff 10, 11, 12 neu 13 yn gymwys i ysgol,

(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i awdurdod lleol, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac

(c)os oedd yr awdurdod lleol yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â defnydd o’r tir.

(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, ac os nad oes ymddiriedolwyr, y corff llywodraethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 27 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)