RHAN 1CYFLWYNIAD
I1I11Trosolwg ar y Ddeddf hon
1
Mae 6 Rhan i’r Ddeddf hon.
2
Mae Rhan 2 wedi ei rhannu’n 3 Pennod sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chynnal a gwella safonau—
a
mewn ysgolion a gynhelir, a
b
yn y modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdodau lleol.
3
Mae Pennod 1 o Ran 2 (gan gynnwys Atodlen 1)—
a
yn nodi’r seiliau dros ymyrraeth gan awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir sy’n peri pryder, a
b
yn darparu amrediad o bwerau ymyrryd i alluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i ymdrin ag achosion y pryder.
4
Mae Pennod 2—
a
yn nodi’r seiliau dros ymyrraeth gan Weinidogion Cymru ym materion arfer swyddogaethau addysg gan awdurdodau lleol sy’n peri pryder, a
b
yn darparu amrediad o bwerau ymyrryd i alluogi Gweinidogion Cymru i ymdrin ag achosion y pryder.
5
Mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru roi canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, penaethiaid ysgolion o’r fath ac awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai swyddogaethau gael eu harfer gyda golwg ar wella safon yr addysg sy’n cael ei darparu mewn ysgolion a gynhelir.
6
Mae Rhan 3 wedi ei rhannu’n 6 Phennod sy’n cynnwys darpariaeth am drefniadaeth ysgolion a gynhelir.
7
Mae Pennod 1 o Ran 3 yn darparu ar gyfer Cod Trefniadaeth Ysgolion ynghylch arfer swyddogaethau o dan Ran 3.
8
Mae Pennod 2 (gan gynnwys Atodlenni 2 i 4) yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir yn unol â phroses benodedig.
9
Mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer rhesymoli lleoedd ysgol os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir.
10
11
Mae Pennod 5 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru ailstrwythuro addysg chweched dosbarth.
12
Mae Pennod 6 yn darparu ar gyfer materion amrywiol ac atodol sy’n ymwneud â threfniadaeth ysgolion.
13
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sydd—
a
i’w paratoi gan awdurdodau lleol,
b
i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, ac
c
i’w cyhoeddi a’u gweithredu gan awdurdodau lleol (adrannau 84, 85 a 87).
14
Mae Rhan 4 hefyd yn darparu pŵer sy’n arferadwy drwy reoliadau i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud asesiad o’r galw ymhlith rhieni am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant (adran 86).
15
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth am swyddogaethau amrywiol sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir, gan gynnwys darpariaeth—
a
sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu brecwast ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd a gynhelir ar gais cyrff llywodraethu’r ysgolion hynny (adrannau 88 i 90);
b
sy’n diwygio pwerau presennol awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i godi tâl am brydau ysgol, fel bod—
i
gofyniad cysylltiedig i godi’r un pris ar bob person am yr un maint o’r un eitem yn cael ei ddileu, a
ii
gofyniad newydd na fydd y pris a godir am eitem yn fwy na chost darparu’r eitem honno yn cael ei osod (adran 91);
c
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth resymol am wasanaeth sy’n cwnsela mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol i ddisgyblion ysgol penodedig a phlant eraill (adran 92);
d
yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gynnal cyfarfod os gofynnir iddynt wneud hynny gan rieni mewn deiseb (adran 94) ac yn diddymu dyletswydd sy’n bodoli eisoes i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni (adran 95);
e
yn diddymu dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi cod ymarfer ar gyfer sicrhau perthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir (adran 96).
16
Mae Rhan 6—
a
yn cyflwyno Atodlen 5, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall sy’n codi o ddarpariaethau’r Ddeddf hon;
b
yn cynnwys diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf hon yn gyffredinol a mynegai o ddiffiniadau sy’n gymwys i nifer o ddarpariaethau, ond nid yr holl Ddeddf (adran 98);
c
yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.