RHAN 2SAFONAU
PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR
Ymyrraeth gan awdurdod lleol
3Hysbysiad rhybuddio
1
Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas ag un o’i ysgolion a gynhelir, caiff yr awdurdod roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—
a
y seiliau dros ymyrryd;
b
y rhesymau pam y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y seiliau’n bodoli;
c
y camau y mae’r awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;
d
y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);
e
y camau y mae’r awdurdod â’i fryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu’n methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.
3
Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddo yr un pryd roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—
a
y pennaeth;
b
os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—
i
y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
ii
os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;
c
Gweinidogion Cymru.