Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

57Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i gywiro darpariaeth ormodol neu annigonol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu fod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir—

(a)yn ardal awdurdod lleol, neu

(b)mewn rhan o’r ardal honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, a

(b)cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod i arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(3)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd,

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion, wrth iddynt roi effaith i’r cyfarwyddyd, gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir ynddo, ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol, pennu’r nifer ychwanegol o ddisgyblion y mae lle i’w drefnu ar eu cyfer.

(4)Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion ymwneud ag ysgol a enwir.