Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

68Cynigion gan Weinidogion CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 66, a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Cyn cyhoeddi cynigion o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(4)Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—

(a)at yr awdurdodau lleol y mae’r cynigion yn effeithio ar eu hardaloedd, a

(b)at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 68 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)