Search Legislation

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Pwerau a chyfrifoldebau

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, Croes Bennawd: Pwerau a chyfrifoldebau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Pwerau a chyfrifoldebauLL+C

14Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau BwydLL+C

(1)Rhaid i’r ASB—

(a)wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i’r canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r materion y mae rhaid i awdurdod bwyd roi sylw iddynt wrth lunio ac adolygu rhaglen arolygu o dan adran 2 (pan fo’r materion hynny wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru;

(c)cyhoeddi’r meini prawf sgorio a ddefnyddir i roi sgôr hylendid bwyd o dan adran 3;

(d)ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn cychwyn, a phob cyfnod dilynol o 1 flwyddyn, gynnal adolygiad o weithrediad y system apelau a sefydlir o dan adran 5 yn ystod y cyfnod hwnnw;

(e)ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn dechrau, a phob cyfnod dilynol o 3 blynedd, adolygu fel arall sut y rhoddwyd ar waith y cynllun sgorio bwyd a sefydlwyd o dan y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw a sut y bu iddo gael ei weithredu;

(f)gwneud argymhellion i awdurdodau bwyd i’w cynorthwyo i gydymffurfio â’u cyfrifoldebau o dan y cynllun;

(g)hybu’r cynllun i sefydliadau busnes bwyd a defnyddwyr yng Nghymru;

(h)darparu sticeri sgôr hylendid bwyd ar y ffurf ragnodedig i awdurdodau bwyd yn ddi-dâl.

(2)Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(d) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbon Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—

(a)manylion am yr adolygiad a ymgymerwyd ag ef;

(b)yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r system apelau y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.

(3)Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(e) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—

(a)manylion am yr adolygiad yr ymgymerwyd ag ef;

(b)yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r cynllun sgorio hylendid bwyd y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.

(4)Rhaid i’r ASB anfon copi o bob adroddiad a lunnir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2A. 14 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(h)

15Pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwydLL+C

(1)Rhaid i awdurdod bwyd anfon gwybodaeth a ragnodir at weithredwyr sefydliadau busnes bwyd newydd yn ei ardal.

(2)Rhaid i’r wybodaeth honno gael ei hanfon at weithredwr o fewn 14 o ddiwrnodau o wneud pa un bynnag o’r pethau canlynol sy’n gymwys—

(a)cofrestri sefydliad y gweithredwr gan yr awdurdod fwyd o dan Erthygl 6 o Reoliad (EC) 852/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cofrestru sefydliadau busnes bwyd sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno), neu

(b)gweithredwr y sefydliad yn gwneud cais i’r awdurdod bwyd am gymeradwyaeth o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) 853/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cymeradwyo sefydliadau o’r fath sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno).

(3)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw—

(a)i argymhellion a wneir gan yr ASB;

(b)i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 23 o’r Ddeddf hon.

(4)Rhaid i awdurdod bwyd wneud trefniadau i orfodi’r rhwymedigaethau sy’n cael eu gosod gan y Ddeddf hon ar sefydliadau yn ei ardal.

(5)Rhaid i awdurdod bwyd adolygu gweithrediad y cynllun sgorio hylendid bwyd yn ei ardal—

(a)o bryd i’w gilydd, gyda golwg ar sicrhau bod y meini prawf sgorio yn cael eu hasesu’n deg ac yn gyson;

(b)ar gais yr ASB, er mwyn cynorthwyo’r ASB i werthuso’r cynllun fel sy’n ofynnol gan adran 14(d).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I4A. 15(1) mewn grym ar 28.10.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2617, ergl. 2(f)

I5A. 15(1) mewn grym ar 28.11.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(i)

I6A. 15(2)-(5) mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(i)

16Cyfrifoldebau eraill gweithredwyr sefydliadau busnes bwydLL+C

Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd—

(a)darparu unrhyw wybodaeth y mae angen rhesymol amdani ar awdurdod bwyd i’w alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ar gyfer y sefydliad;

(b)fel arall rhoi pob cymorth rhesymol i awdurdod bwyd er mwyn ei alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ac arfer ei swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I8A. 16 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources