xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

PENNOD 1SWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

2Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru

(1)Bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) yn parhau.

(2)Ei Mawrhydi sydd i benodi person i fod yn Archwilydd Cyffredinol ar enwebiad y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Nid oes enwebiad i gael ei wneud hyd nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi cael ei wneud gyda’r cyrff hynny yr ymddengys i’r Cynulliad eu bod yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

(4)Mae’r person sydd wedi ei benodi yn dal y swydd am hyd at 8 mlynedd.

(5)Ni chaniateir i’r person gael ei benodi eto.

(6)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred neu anweithred person a benodwyd yn Archwilydd Cyffredinol gan ddiffyg yn enwebiad neu benodiad y person hwnnw.

3Ymddiswyddiad neu ddiswyddiad

(1)Mae person a benodir yn Archwilydd Cyffredinol yn dal y swydd tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3)).

(2)Caiff Ei Mawrhydi ryddhau person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer—

(a)ar gais y person, neu

(b)wedi i’w Mawrhydi gael ei bodloni nad yw’r person yn gallu, oherwydd rhesymau meddygol, cyflawni dyletswyddau’r swydd na gwneud cais i gael ei ryddhau ohoni.

(3)Caiff Ei Mawrhydi ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer ar dderbyn argymhelliad, ar sail camymddygiad y person, y dylai Ei Mawrhydi wneud hynny.

(4)Ni chaniateir gwneud argymhelliad i ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol oni bai—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y dylai’r argymhelliad gael ei wneud, a

(b)bod penderfyniad y Cynulliad wedi ei basio ar bleidlais lle yr oedd nifer yr aelodau Cynulliad a bleidleisiodd o blaid yn ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Cynulliad.

4Anghymhwyso

(1)Ni all person gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

(2)Mae person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;

(d)yn Aelod o Senedd yr Alban;

(e)yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;

(f)yn gyflogai i Swyddfa Archwilio Cymru.

5Cyflogaeth etc cyn-Archwilydd Cyffredinol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson a oedd wedi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol o dan y Rhan hon, ond nad yw bellach yn y swydd honno.

(2)Cyn gwneud y canlynol—

(a)cymryd swydd o ddisgrifiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(b)ymrwymo i gytundeb neu drefniant arall o ddisgrifiad a bennir felly,

rhaid i’r person ymgynghori ag unrhyw berson a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o’r canlynol—

(a)y swyddi a bennir at ddibenion is-adran (2)(a);

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill a bennir at ddibenion is-adran (2)(b).

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys am gyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol.

(5)Rhaid i’r person beidio â gwneud y canlynol—

(a)dal swydd y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer gan neu ar ran—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)bod yn aelod, cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i berson a restrir yn is-adran (7).

(6)Rhaid i’r person beidio â darparu gwasanaethau, yn rhinwedd unrhyw swydd, i’r canlynol—

(a)y Goron, neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron,

(b)y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Cynulliad,

(c)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Comisiwn, neu

(d)person a restrir yn is-adran (7).

(7)Dyma’r personau—

(a)person y mae ei gyfrifon neu ei ddatganiad o gyfrifon yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt neu iddo yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(b)person y mae astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian a wneir neu a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad yn ymwneud ag ef;

(c)person y mae astudiaeth a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol ag adran 145A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (astudiaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gorff neu gyrff perthnasol) yn ymwneud ag ef;

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn darparu cyngor neu gymorth iddo o dan adran 145D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;

(e)person y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol swyddogaethau mewn perthynas ag ef, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag ef, yn rhinwedd adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (trosglwyddo swyddogaethau Gweinidogion Cymru);

(f)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (3) o’r adran honno;

(g)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno.

(8)Ond nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal person rhag dal unrhyw un o’r swyddi canlynol—

(a)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol;

(b)Archwilydd Cyffredinol yr Alban;

(c)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

6Statws etc

(1)Mae’r person sydd am y tro yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau, yn enw’r swydd honno, i fod yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol i’w ystyried yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi neu’n un sy’n arfer unrhyw swyddogaeth ar ran y Goron.

(3)Ond ystyrir bod yr Archwilydd Cyffredinol yn was i’r Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

7Talu cydnabyddiaeth

(1)Cyn i berson gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol, bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth yn cael eu gwneud o ran y person hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Ond cyn y gellir gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, trefniadau ar gyfer pensiwn a buddion eraill, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(4)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

(5)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

(a)darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol neu sydd wedi peidio â dal y swydd honno, a

(b)y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, arian rhodd hynny neu’r buddion eraill hynny.

(6)Bydd symiau sy’n daladwy yn rhinwedd yr adran hon yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru ac yn cael eu talu ohoni.