ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru
RHAN 2AELODAU ANWEITHREDOL
8Telerau penodi eraill
1
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon (yn ddarostyngedig i baragraff 9).
2
Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—
a
y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol)—
i
y caiff aelod anweithredol eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;
ii
y caiff cadeirydd SAC eu dal tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd, a
b
y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad)—
i
y caiff aelod anweithredol fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;
ii
y caiff cadeirydd SAC fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd.
3
Ond dim ond tra bod person yn aelod anweithredol, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hyn.