ATODLEN 3Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed
RHAN 1YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL
1Yr Archwilydd Cyffredinol blaenorol i barhau yn Archwilydd Cyffredinol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r person sydd yn Archwilydd Cyffredinol yn union cyn y diwrnod penodedig.
2
Ar y diwrnod penodedig, ac ar ôl hynny, bydd y person—
a
yn parhau i fod yn Archwilydd Cyffredinol ac yn cael ei drin fel petai wedi cael ei benodi i’r swydd honno o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon;
b
yn dal y swydd honno am 8 mlynedd gan dynnu o’r cyfnod hwnnw gyfnod sy’n hafal i’r amser y bu’r person yn Archwilydd Cyffredinol cyn y diwrnod penodedig.
3
Bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth i’r person o dan adran 7 yn cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y diwrnod penodedig (ond nid ydynt i gwmpasu unrhyw gyfnod cyn y diwrnod penodedig).
4
Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.
5
Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.