xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004LL+C

39(1)Mae adran 34 (effaith hysbysiad cynghori) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (b) o is-adran (5), yn lle “the person who is for the time being the auditor of the body’s accounts” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(3)Yn is-adran (8)—

(a)yn lle “An auditor” rhodder “The Wales Audit Office”, a

(b)yn lle “by him” rhodder “by the Auditor General for Wales”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 4 para. 39 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)