RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL
PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC
Ffioedd
24Cynllun ar gyfer codi ffioedd
1
Rhaid i SAC baratoi cynllun sy’n ymwneud â chodi ffioedd gan SAC.
2
Rhaid i’r cynllun gynnwys y canlynol—
a
rhestr o’r deddfiadau y caiff SAC godi ffi odanynt;
b
pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, y raddfa honno neu’r graddfeydd hynny;
c
pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi swm i’w godi, y swm hwnnw;
d
pan nad oes darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, na rhagnodi swm, y modd y bydd SAC yn cyfrifo’r ffi a godir.
3
Caiff y cynllun wneud y canlynol ymysg pethau eraill—
a
cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, a
b
darparu ar gyfer yr adegau a’r modd y bydd taliadau yn cael eu gwneud.
4
O ran y cynllun—
a
rhaid i SAC ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr,
b
caiff SAC ei ddiwygio neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg, ac
c
rhaid i SAC ei osod (a gosod unrhyw ddiwygiad iddo) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
5
Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd o dan—
a
adran 64F o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd am baru data), neu
b
adran 27A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioedd),
i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan SAC, rhaid i SAC ddiwygio’r cynllun i gynnwys y raddfa neu’r graddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru yn lle’r rhai a ragnodwyd gan SAC.
6
Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol os mai diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5) yw’r unig ddiwygiad i gynllun.
7
Bydd y cynllun yn cael effaith pan fydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn achos diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5), unwaith y bydd wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad.
8
Rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun (ac unrhyw ddiwygiad iddo) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi iddo gael effaith.