Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

24Cynllun ar gyfer codi ffioedd
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i SAC baratoi cynllun sy’n ymwneud â chodi ffioedd gan SAC.

(2)Rhaid i’r cynllun gynnwys y canlynol—

(a)rhestr o’r deddfiadau y caiff SAC godi ffi odanynt;

(b)pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, y raddfa honno neu’r graddfeydd hynny;

(c)pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi swm i’w godi, y swm hwnnw;

(d)pan nad oes darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, na rhagnodi swm, y modd y bydd SAC yn cyfrifo’r ffi a godir.

(3)Caiff y cynllun wneud y canlynol ymysg pethau eraill—

(a)cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, a

(b)darparu ar gyfer yr adegau a’r modd y bydd taliadau yn cael eu gwneud.

(4)O ran y cynllun—

(a)rhaid i SAC ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr,

(b)caiff SAC ei ddiwygio neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg, ac

(c)rhaid i SAC ei osod (a gosod unrhyw ddiwygiad iddo) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd o dan—

(a)adran 64F o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd am baru data), neu

(b)adran 27A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioedd),

i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan SAC, rhaid i SAC ddiwygio’r cynllun i gynnwys y raddfa neu’r graddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru yn lle’r rhai a ragnodwyd gan SAC.

(6)Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol os mai diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5) yw’r unig ddiwygiad i gynllun.

(7)Bydd y cynllun yn cael effaith pan fydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn achos diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5), unwaith y bydd wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad.

(8)Rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun (ac unrhyw ddiwygiad iddo) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi iddo gael effaith.