RHAN 2LL+CCOMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Parhad ac enwLL+C

2Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol CymruLL+C

(1)Mae’r corff corfforaethol a enwir yn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 1972) i barhau mewn bodolaeth.

(2)Ond mae wedi ei ailenwi, ac mae i’w alw’n Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn”).

StatwsLL+C

3StatwsLL+C

(1)Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Comisiwn i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

AelodauLL+C

4AelodaethLL+C

(1)Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—

(a)aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),

(b)aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac

(c)dim mwy na 3 aelod arall.

(2)Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn—

(a)aelod Seneddol;

(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)aelod o awdurdod lleol F1...;

(d)swyddog i awdurdod lleol F1...;

(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)aelod o staff y Comisiwn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 4 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

5DeiliadaethLL+C

Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

TrafodionLL+C

6TrafodionLL+C

(1)3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.

(2)Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.

7Y sêl a dilysrwydd dogfennauLL+C

(1)Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.

(2)Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.

(3)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyolLL+C

8Prif weithredwrLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.

(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan [F2y Comisiwn] ar delerau ac amodau a benderfynir [F3ganddo] (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

[F4(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).]

(3)Cyn penodi prif weithredwr [F5o dan is-adran (2A),] rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

[F6(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—

(a)yn aelod Seneddol;

(b)yn Aelod o’r Senedd;

(c)yn aelod o awdurdod lleol;

(d)yn swyddog awdurdod lleol;

(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.]

9Staff eraillLL+C

(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.

(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.

10ArbenigwyrLL+C

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.

11Comisiynwyr cynorthwyolLL+C

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“comisiynydd cynorthwyol”) y caiff, at ddibenion adran 13, ddirprwyo swyddogaethau iddo.

(2)Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn—

(a)aelod Seneddol;

(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)aelod o awdurdod lleol F7...;

(d)swyddog i awdurdod lleol F8...;

(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)aelod o staff y Comisiwn.

(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 11 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

Pwerau cyffredinol a chyfarwyddiadauLL+C

12PwerauLL+C

(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.

(2)Ond ni chaiff y Comisiwn—

(a)benthyca arian;

(b)caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu

(c)ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.

13DirprwyoLL+C

(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu gomisiynydd cynorthwyol y swyddogaethau hynny o dan Benodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 [F9o’r Ddeddf hon] (swyddogaethau ynghylch cynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol) [F10, neu Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),] a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—

(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na

(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 13 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

14CyfarwyddiadauLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

Materion ariannolLL+C

15CyllidoLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.

(2)Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).

16Swyddog cyfrifydduLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

17Pwyllgor archwilioLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—

(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,

(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,

(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a

(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).

(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

18Pwyllgor archwilio: aelodaethLL+C

(1)Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—

(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a

(b)o leiaf un aelod lleyg.

(2)Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.

(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.

(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—

(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu

(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).

19Cyfrifon ac archwilio allanolLL+C

(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

20Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.