- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae’r corff corfforaethol a enwir yn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 1972) i barhau mewn bodolaeth.
(2)Ond mae wedi ei ailenwi, ac mae i’w alw’n Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn”).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron.
(2)Nid yw eiddo’r Comisiwn i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 3 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—
(a)aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),
(b)aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac
(c)dim mwy na 3 aelod arall.
(2)Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).
(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn—
(a)aelod Seneddol;
(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)aelod o awdurdod lleol F1...;
(d)swyddog i awdurdod lleol F1...;
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 4(3)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 4 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 5 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.
(2)Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 6 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.
(2)Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.
(3)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 7 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan [F2y Comisiwn] ar delerau ac amodau a benderfynir [F3ganddo] (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
[F4(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).]
(3)Cyn penodi prif weithredwr [F5o dan is-adran (2A),] rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
[F6(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—
(a)yn aelod Seneddol;
(b)yn Aelod o’r Senedd;
(c)yn aelod o awdurdod lleol;
(d)yn swyddog awdurdod lleol;
(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.]
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F3Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F4A. 8(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(3), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F5Geiriau yn a. 8(3) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(4), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F6A. 8(4)(5) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(5), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 8 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.
(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 9 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.
(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 10 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“comisiynydd cynorthwyol”) y caiff, at ddibenion adran 13, ddirprwyo swyddogaethau iddo.
(2)Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn—
(a)aelod Seneddol;
(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)aelod o awdurdod lleol F7...;
(d)swyddog i awdurdod lleol F8...;
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn a. 11(2)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F8Geiriau yn a. 11(2)(d) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 11 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.
(2)Ond ni chaiff y Comisiwn—
(a)benthyca arian;
(b)caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu
(c)ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 12 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu gomisiynydd cynorthwyol y swyddogaethau hynny o dan Benodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 [F9o’r Ddeddf hon] (swyddogaethau ynghylch cynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol) [F10, neu Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),] a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.
(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—
(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na
(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn a. 13(1) wedi eu mewnosod (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2), Atod. 1 para. 13(a)
F10Geiriau yn a. 13(1) wedi eu mewnosod (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2), Atod. 1 para. 13(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 13 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 14 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.
(2)Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 15 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;
(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 16 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—
(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,
(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,
(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a
(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).
(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.
(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 17 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—
(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a
(b)o leiaf un aelod lleyg.
(2)Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.
(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.
(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—
(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu
(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 18 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—
(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
(b)llunio datganiad o gyfrifon.
(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
(a)yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,
(b)y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.
(3)Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a
(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 19 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 20 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: