Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

Prif ardaloedd

29Adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal

(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas â phob cyfnod adolygu—

(a)paratoi a chyhoeddi rhaglen sy’n nodi ei amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal yr holl adolygiadau sy’n ofynnol o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod, a

(b)anfon copi o’r rhaglen at Weinidogion Cymru.

(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y daw’r adran hon i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â’i ddyletswyddau yn is-adran (2)—

(a)mewn perthynas â’r cyfnod adolygu cyntaf, cyn gynted ag y bo modd wedi iddo ddechrau, a

(b)mewn perthynas â phob cyfnod adolygu dilynol, cyn i’r cyfnod ddechrau.

(5)Caiff y Comisiwn hefyd, o’i wirfodd neu ar gais prif gyngor, gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal.

(6)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (5) ar gais prif gyngor os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(7)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal sydd dan adolygiad y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i newid o’r fath—

(i)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal,

(ii)y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol,

(iii)y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(8)Rhaid i’r Comisiwn beidio â gwneud neu gyhoeddi, yn unrhyw gyfnod o 9 mis cyn diwrnod etholiad arferol cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol prif ardal.

(9)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol prif ardal yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal,

(b)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir y brif ardal iddynt am y tro at ddibenion ethol aelodau,

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal honno, a

(d)enw unrhyw ward etholiadol.

(10)At ddibenion is-adran (9)(b), mae cyfeiriad at y math o ward etholiadol yn gyfeiriad at a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod.

(11)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “ward amlaelod” yw unrhyw ward etholiadol y mae nifer penodedig (mwy nag un) o aelodau i’w hethol ar gyfer y ward honno,

  • ystyr “ward etholiadol” yw unrhyw ardal yr etholir aelodau i awdurdod lleol ar ei chyfer, ac

  • ystyr “ward un aelod” yw ward etholiadol y mae un aelod yn unig i’w ethol ar ei chyfer.

30Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal

(1)Rhaid i’r Comisiwn, wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal—

(a)ceisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly,

(b)rhoi sylw i’r canlynol—

(i)dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly,

(ii)dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a), rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a

(b)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18) y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “etholwr llywodraeth leol” yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl.