RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD
Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithredu
I140Gorchmynion gweithredu: darpariaeth ganlyniadol
1
Caniateir i orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu brif gyngor o dan adran 37, 38, 39 neu 43 wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy neu ei farn ef.
2
Caniateir i’r gorchmynion hynny, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
a
enw unrhyw ardal neu ward etholiadol sydd wedi ei newid;
b
cyfanswm nifer y cynghorwyr, dosraniad cynghorwyr ymhlith wardiau etholiadol, neilltuo cynghorwyr presennol i wardiau etholiadol newydd neu wardiau etholiadol sydd wedi eu newid ac etholiad cyntaf cynghorwyr i unrhyw ward etholiadol newydd neu unrhyw ward etholiadol sydd wedi ei newid;
c
cynnal etholiad newydd i gynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol yn yr ardal llywodraeth leol dan sylw;
d
y drefn ar gyfer ymddeoliad cynghorwyr ar gyfer ward etholiadol;
e
cyfansoddiad unrhyw gorff cyhoeddus mewn unrhyw ardal neu ward etholiadol y mae’r gorchymyn yn effeithio arni, etholiad iddo ac aelodaeth ohono;
f
unrhyw un neu ragor o’r materion a ddisgrifir yn adran 41(2).
3
Dim ond o ganlyniad i newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal a wnaed yn dilyn adolygiad o dan Bennod 3 y caniateir gwneud darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2)(c).
4
Caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 37 neu 43 gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.
5
Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).
6
Yn yr adran hon—
mae “corff cyhoeddus”yn cynnwys—
- a
awdurdod lleol,
- b
unrhyw ymddiriedolwyr, comisiynwyr neu bersonau eraill sydd, at ddibenion cyhoeddus ac nid er eu budd eu hunain, yn gweithredu o dan unrhyw ddeddfiad neu offeryn er mwyn gwella unrhyw fan, cyflenwi dŵr i unrhyw fan, neu ddarparu neu gynnal mynwent neu farchnad mewn unrhyw fan, ac
- c
unrhyw awdurdod arall a chanddo bwerau i godi neu ddyroddi praesept ar gyfer unrhyw ardreth at ddibenion cyhoeddus,
- a
ystyr “cynghorydd” yw aelod etholedig awdurdod lleol.
I241Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol gyffredinol
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i orchmynion a wneir o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu mewn cysylltiad â hynny.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
a
swyddogaethau, ardal neu awdurdodaeth mewn neu dros ardal (neu ran o ardal) unrhyw gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus o fewn ardal (neu ward etholiadol) y mae gorchymyn a wneir o dan y Rhan hon yn effeithio arni;
b
costau a threuliau corff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus y mae’r cyfryw orchymyn yn effeithio arnynt;
c
trosglwyddo staff cyrff cyhoeddus neu swyddi cyhoeddus yr effeithir arnynt;
d
trosglwyddo, rheoli neu warchod eiddo (boed yn eiddo tirol neu’n eiddo personol) a throsglwyddo hawliau a rhwymedigaethau;
e
trosglwyddo achosion cyfreithiol.
3
Caniateir i’r rheoliadau o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.
4
Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).
5
Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).
I342Trosglwyddo staff
Rhaid i orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu, yn ôl y digwydd, reoliadau o dan adran 41 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff gynnwys darpariaeth i sicrhau—
a
bod person a drosglwyddir i gyflogwr newydd yn aros ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai yr oedd y person yn ddarostyngedig iddynt cyn iddo drosglwyddo hyd nes bod y person—
i
yn gadael cyflogaeth y cyflogwr newydd, neu
ii
yn cael datganiad ysgrifenedig sy’n cyfeirio at y gorchymyn neu’r rheoliadau ac sy’n pennu telerau ac amodau cyflogaeth newydd, a
b
ar yr amod bod y person yn cyflawni dyletswyddau sy’n rhesymol debyg i’r rhai yr oedd yn eu cyflawni yn union cyn y trosglwyddo, nad yw unrhyw delerau ac amodau newydd a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (a)(ii) yn llai ffafriol na’r rhai a oedd gan y person cyn y trosglwyddo.
I443Amrywio a dirymu gorchmynion
1
Ac eithrio fel y mae’r adran hon yn darparu ar ei gyfer, ni chaniateir amrywio na dirymu gorchmynion a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor drwy orchymyn amrywio neu ddirymu—
a
unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 y disgrifir ei math yn adran 40(2);
b
unrhyw ddarpariaeth debyg mewn gorchymyn a wneir o dan adran 67 (trefniadau canlyniadol a throsiannol) neu a wneir yn rhinwedd adran 255 (trosglwyddo swyddogion) yn Neddf 1972.
3
Ac eithrio fel y darperir yn is-adrannau (4) a (5), dim ond y personau neu’r corff a wnaeth y gorchymyn sy’n cynnwys y ddarpariaeth sydd i’w hamrywio neu i’w dirymu (“y gorchymyn gwreiddiol”) a gaiff wneud gorchymyn i amrywio neu ddirymu darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2).
4
Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol—
a
wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y bo’n ymwneud â Chymru, neu
b
wedi ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
5
Caiff prif gyngor wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol wedi ei wneud gan gyngor a’i rhagflaenodd ac nad yw’n bodoli mwyach.
6
Ond dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud ag ardal y prif gyngor y caiff gorchymyn a wneir yn unol ag is-adran (5) amrywio neu ddirymu darpariaeth yn y gorchymyn gwreiddiol.
7
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor gydymffurfio ag is-adrannau (8) a (9).
8
Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor—
a
anfon copi o’r drafft o’r gorchymyn i unrhyw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus y mae’r gorchymyn yn debygol o effeithio arno yn eu barn hwy neu yn ei farn ef,
b
cyhoeddi’r gorchymyn drafft mewn modd sy’n debygol, yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, o’i ddwyn i sylw personau a chanddynt fuddiant yn y gorchymyn o bosibl,
c
sicrhau bod copi o’r gorchymyn drafft ar gael i bersonau a chanddynt fuddiant edrych arno yn y mannau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, a
d
gwahodd sylwadau mewn perthynas â’r gorchymyn drafft o fewn y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi o dan baragraff (b).
9
Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law o fewn y cyfnod o 2 fis a chânt addasu’r gorchymyn yng ngoleuni’r sylwadau hynny.
10
Pan fo Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor yn fodlon bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu’r prif gyngor, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent hwy neu y mae ef o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn cywiro’r camgymeriad hwnnw.
11
Yn is-adran (10) mae “camgymeriad”, mewn perthynas â gorchymyn, yn cynnwys darpariaeth a gynhwysir yn y gorchymyn neu a hepgorir ohono gan ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a roddir gan unrhyw gorff cyhoeddus.
12
Ni chaiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor arfer y pŵer yn is-adran (10) mewn perthynas â gorchymyn a wneir gan rywun arall.
F112A
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddirymu gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 (ni waeth pa un a wnaethant hwy y gorchymyn ai peidio) o ganlyniad i reoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
13
Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).