RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 2ADOLYGIADAU ARDAL

Cymunedau

I125Adolygu ffiniau cymuned gan brif gyngor

1

Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o un neu ragor o’r cymunedau yn ei ardal—

a

o’i wirfodd, neu

b

ar gais—

i

cyngor cymuned yn ei ardal, neu

ii

cyfarfod cymunedol yn ei ardal.

2

Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais cyngor cymuned neu gyfarfod cymunedol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

3

Y newidiadau y caiff prif gyngor eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

a

y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

b

o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—

i

y gymuned neu’r cymunedau sydd o dan adolygiad,

ii

y brif ardal,

y mae o’r farn eu bod yn briodol.

4

At ddibenion is-adran (3)(b)(ii), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.

5

Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 26) arfer swyddogaethau’r cyngor o dan yr adran hon.

6

Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.