Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Y weithdrefn ynglŷn â gwneud gorchmynion sy’n gosod gwaharddiadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2Cyn gwneud unrhyw orchymyn o dan adran 57(2), heblaw gorchymyn ei unig effaith yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi mewn 1 neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir wedi ei leoli ynddi hysbysiad—

(a)sy’n datgan effaith gyffredinol y gorchymyn,

(b)sy’n pennu lle yn yr ardal honno lle y gall unrhyw berson edrych ar gopi o’r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol yn ystod cyfnod o 28 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad am y tro cyntaf, ac

(c)sy’n datgan y caiff unrhyw berson wrthwynebu gwneud y gorchymyn, o fewn y cyfnod hwnnw, drwy hysbysiad i’r awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)