RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.
Torri amod
20Pŵer i gymryd camau ar ôl collfarnu’r perchennog
1
Pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan adran 18(1), caiff yr awdurdod lleol a ddyroddodd yr hysbysiad cydymffurfio—
a
cymryd unrhyw gamau y mae’n ofynnol o dan yr hysbysiad cydymffurfio i’r perchennog eu cymryd ond sydd heb eu cymryd, a
b
cymryd unrhyw gamau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod i sicrhau y cydymffurfir â’r amod a bennir yn yr hysbysiad cydymffurfio.
2
Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau o dan is-adran (1), rhaid iddo gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—
a
sy’n nodi’r tir a’r hysbysiad cydymffurfio y mae’n ymwneud â hwy,
b
sy’n nodi bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir,
c
sy’n disgrifio’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd ar y tir,
d
os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac
e
sy’n nodi’r dyddiadau a’r amserau pryd y bwriedir i’r camau gael eu cymryd (gan gynnwys pryd y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau a phryd y mae’n disgwyl i’r camau gael eu cwblhau).
3
Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno’n ddigon cynnar cyn bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir er mwyn rhoi hysbysiad rhesymol i berchennog y tir am y bwriad i fynd iddo.
4
Mewn achos pan fo’r awdurdod lleol yn awdurdodi person heblaw un o swyddogion yr awdurdod lleol i gymryd y camau ar ei ran, mae’r cyfeiriad yn adran 32(1) at swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol yn cynnwys y person hwnnw.
5
Nid yw’r gofyniad yn adran 32(2) bod rhaid rhoi 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd i’r tir, o’i gymhwyso at achos yn yr adran hon, yn gymwys ond ar gyfer y diwrnod y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau ar y tir.