Diwallu anghenion gofalwr am gymorthLL+C
40Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorthLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.
(2)Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—
(a)yn oedolyn—
(i)sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu
(ii)nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu
(b)yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.
(3)Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.
(4)Amod 3—
(a)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu cymorth i’r gofalwr—
(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny, neu
(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(1) neu (2) yn gymwys;
(b)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (9) yn gymwys, neu
(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(3) neu (4) yn gymwys;
(c)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (10) yn gymwys, neu
(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys;
(d)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(12) neu (13) yn gymwys, neu
(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
41Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth: materion atodolLL+C
(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr ar neu islaw’r terfyn ariannol.
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr uwchlaw’r terfyn ariannol, a
(b)os yw’r gofalwr, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu’r anghenion o dan sylw.
(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a
(b)os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano uwchlaw’r terfyn ariannol, a
(b)os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.
(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a
(b)naill ai—
(i)os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu
(ii)os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.
(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—
(i)talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu
(ii)talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,
(b)os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac
(c)naill ai—
(i)os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu
(ii)os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.
(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a
(b)os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(8)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
(9)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,
(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac
(c)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(10)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,
(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac
(c)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(11)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (10)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.
(12)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a
(b)os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(13)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a
(b)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(14)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (13)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.
(15)Yn yr adran hon—
mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
(16)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
42Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorthLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a (pan fo’n gymwys) 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.
(2)Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—
(a)yn oedolyn—
(i)sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu
(ii)nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu
(b)yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.
(3)Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.
(4)Amod 3—
(a)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)yw nad oes ffi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran [F143(5)], (6) neu (7) yn gymwys, neu
(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran [F243(1)] neu (2) yn gymwys;
(b)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran [F343(5)], (6) neu (8) yn gymwys, neu
(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran [F443(3)] neu (4) yn gymwys;
(c)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran [F543(10)] neu (11) yn gymwys, neu
(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran [F643(3)] neu (4) yn gymwys.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 42(4)(a)(i) wedi ei amnewid (6.4.2016) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 62(a); O.S. 2016/467, ergl. 3
F2Gair yn a. 42(4)(a)(ii) wedi ei amnewid (6.4.2016) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 62(b); O.S. 2016/467, ergl. 3
F3Gair yn a. 42(4)(b)(i) wedi ei amnewid (6.4.2016) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 62(c); O.S. 2016/467, ergl. 3
F4Gair yn a. 42(4)(b)(ii) wedi ei amnewid (6.4.2016) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 62(d); O.S. 2016/467, ergl. 3
F5Gair yn a. 42(4)(c)(i) wedi ei amnewid (6.4.2016) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 62(e); O.S. 2016/467, ergl. 3
F6Gair yn a. 42(4)(c)(ii) wedi ei amnewid (6.4.2016) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 62(f); O.S. 2016/467, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
43Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth: materion atodolLL+C
(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a
(b)os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano yn uwch na’r terfyn ariannol, a
(b)os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.
(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a
(b)naill ai—
(i)os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu
(ii)os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—
(i)talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu
(ii)talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,
(b)os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac
(c)naill ai—
(i)os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu
(ii)os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.
(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a
(b)os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,
(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac
(c)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(8)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,
(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac
(c)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(9)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (8)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.
(10)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a
(b)os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a
(b)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.
(12)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (11)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.
(13)Yn yr adran hon—
mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
(14)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
44Darpariaeth atodol ynghylch y dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofalwrLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r dyletswyddau o dan adrannau 40 a 42.
(2)Caiff diwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth olygu darparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, hyd yn oed pan na fo unrhyw ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person am y gofal a’r cymorth hwnnw o dan adran 35 neu 37.
(3)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol drwy adran 40 neu 42 ddiwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth, ond nad yw’n ddichonadwy iddo wneud hynny drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, rhaid iddo, i’r graddau y mae’n ddichonadwy iddo wneud hynny, ganfod rhyw fodd arall o wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
45Pŵer i ddiwallu anghenion gofalwr am gymorthLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth os yw’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu
(b)yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal.
(2)Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad ai peidio o anghenion yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.