Gorfodi gorchmynion cyfraniadau etc
4(1)Mae gorchymyn cyfrannu a wneir gan lys ynadon yn orfodadwy fel gorchymyn cynhaliaeth llys ynadon (o fewn ystyr “magistrates’ court maintenance order” yn adran 150(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980).
(2)Mae is-baragraff (1) yn peidio â chael effaith ar y diwrnod y daw paragraff 120 o Atodlen 11 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 i rym.
(3)Pan fo cyfrannwr wedi cytuno, neu wedi cael ei orchymyn, i wneud cyfraniadau i awdurdod lleol, caiff unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r cyfrannwr yn byw yn ei ardal am y tro—
(a)ar gais yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfrannu, a
(b)yn ddarostyngedig i gytundeb ynghylch unrhyw swm sydd i’w ddidynnu mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarparwyd,
gasglu oddi wrth y cyfrannwr unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus ar ran yr awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad.
(4)Mae’r pŵer i gasglu symiau o dan is-baragraff (3) yn cynnwys pŵer i—
(a)cael unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus a rhoi rhyddhad rhag eu talu, a
(b)(os yw’n angenrheidiol) gorfodi unrhyw gyfraniadau i gael eu talu,
er ei bod yn bosibl bod y cyfraniadau hynny wedi dod yn ddyledus ar adeg pan roedd y cyfrannwr yn byw yn rhywle arall.
(5)Mae unrhyw gyfraniad a gesglir o dan is-baragraff (3) i’w dalu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad y cytunwyd arno) i’r awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfraniadau.
(6)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae dogfen—
(a)sy’n honni ei bod yn gopi o orchymyn a wnaed gan lys o dan neu yn rhinwedd paragraff 3, a
(b)sy’n honni ei bod wedi ei hardystio’n wir gopi gan y swyddog dynodedig i’r llys,
i’w derbyn fel tystiolaeth o’r gorchymyn.
(7)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y clerc neu gan ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol a hwnnw’n swyddog i’r awdurdod lleol a sicrhaodd y gorchymyn cyfrannu, a
(c)sy’n nodi bod unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod o dan y gorchymyn yn orddyledus a heb ei dalu,
i’w derbyn fel tystiolaeth bod y swm yn orddyledus a heb ei dalu.