xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 85)

ATODLEN 1LL+CCYFRANIADAU TUAG AT GYNHALIAETH PLANT SY’N DERBYN GOFAL

Atebolrwydd am gyfrannuLL+C

1(1)Pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8) [F1, ac mewn achosion pan fo codi ffioedd wedi ei wahardd gan neu o dan ddeddfiad]) rhaid iddo ystyried a ddylai adennill cyfraniadau tuag at gynhaliaeth y plentyn gan unrhyw berson sy’n atebol am gyfrannu (“cyfrannwr”).

(2)Dim ond pan fo awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol y caniateir iddo adennill cyfraniadau gan gyfrannwr.

(3)Mae person yn atebol am gyfrannu os yw’n oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4)Nid yw person yn atebol am gyfrannu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(5)Yn is-baragraff (4) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

(6)Nid yw person yn atebol am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod y mae’r plentyn yn byw gydag un o rieni’r plentyn o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 81.

(7)Nid oes rhaid i gyfrannwr wneud unrhyw gyfraniad tuag at gynhaliaeth plentyn ac eithrio fel a gytunir neu a ddyfernir yn unol â’r Atodlen hon.

(8)Yr achosion yw’r rhai lle y mae awdurdod lleol yn gofalu am blentyn o dan—

(a)adran 76;

(b)gorchymyn gofal interim o dan Ddeddf Plant 1989;

[F2(c)adran 260 o'r Cod Dedfrydu.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn Atod. 1 para. 1(1) wedi eu mewnosod (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 49(5), 100(3); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Cyfraniadau y cytunwyd arnyntLL+C

2(1)Ni chaniateir i gyfraniadau tuag at gynhaliaeth plentyn gael eu hadennill ond os yw’r awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad (“hysbysiad cyfrannu”) i’r cyfrannwr yn pennu—

(a)y swm wythnosol y mae’n barnu y dylid ei gyfrannu, a

(b)trefniadau ar gyfer talu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad cyfrannu fod yn ysgrifenedig ac wedi ei ddyddio.

(3)Rhaid i’r trefniadau ar gyfer talu gynnwys, yn benodol—

(a)y dyddiad y mae atebolrwydd am gyfrannu’n dechrau (y mae’n rhaid i’r dyddiad beidio â bod yn gynharach na dyddiad yr hysbysiad),

(b)y dyddiad y bydd atebolrwydd o dan yr hysbysiad yn dod i ben (os nad yw’r plentyn, cyn y dyddiad hwnnw, wedi peidio â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod), ac

(c)y dyddiad pryd y mae’r taliad cyntaf i’w wneud.

(4)Caiff yr awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n gyfraniad safonol a ddyfernir gan yr awdurdod ar gyfer yr holl blant y mae’n gofalu amdanynt.

(5)Ni chaiff awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn y mae’n barnu—

(a)y byddai fel arfer yn barod i’w dalu pe bai wedi lleoli plentyn tebyg gyda rhieni maeth awdurdod lleol, a

(b)ei bod yn rhesymol ymarferol i’r cyfrannwr dalu (gan roi sylw i’w foddion byw).

(6)Caiff awdurdod dynnu hysbysiad cyfrannu yn ôl ar unrhyw bryd (heb effeithio ar ei bŵer i gyflwyno un arall).

(7)Pan fo’r awdurdod a’r cyfrannwr yn cytuno ar—

(a)y swm y mae’r cyfrannwr i’w gyfrannu, a

(b)trefniadau ar gyfer talu,

(p’un ai fel a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu neu fel arall) a bod y cyfrannwr yn hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig ei fod yn cytuno â hynny, caiff yr awdurdod adennill yn ddiannod, fel dyled sifil, unrhyw gyfraniad sy’n orddyledus a heb ei dalu.

(8)Nid yw is-baragraff (7) yn effeithio ar unrhyw ddull arall o adennill costau.

(9)Caiff cyfrannwr, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, dynnu ei gytundeb yn ôl mewn perthynas ag unrhyw gyfnod atebolrwydd sy’n dod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Gorchmynion cyfraniadauLL+C

3(1)Pan fo hysbysiad cyfrannu wedi ei gyflwyno i gyfrannwr a bod—

(a)y cyfrannwr wedi methu â dod i unrhyw gytundeb gyda’r awdurdod lleol fel a grybwyllwyd ym mharagraff 2(7) o fewn cyfnod o fis sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad am gyfraniadau, neu

(b)y cyfrannwr wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 2(9) yn tynnu ei gytundeb yn ôl,

caiff yr awdurdod wneud cais i’r llys am orchymyn o dan y paragraff hwn.

(2)Wrth gael cais o’r fath caiff y llys wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfrannu”) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrannwr gyfrannu swm wythnosol tuag at gynhaliaeth y plentyn yn unol â threfniadau ar gyfer talu a bennir gan y llys.

(3)O ran gorchymyn cyfrannu—

(a)ni chaiff bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu, a

(b)rhaid ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

(4)Ni chaiff gorchymyn cyfrannu—

(a)dod yn effeithiol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu,

(b)cael effaith tra na bo’r cyfrannwr yn atebol am gyfrannu (yn rhinwedd paragraff 1), nac

(c)aros mewn grym ar ôl i’r plentyn beidio mwyach â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod a sicrhaodd y gorchymyn.

(5)Ni chaiff awdurdod wneud cais i’r llys o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â hysbysiad cyfrannu y mae wedi ei dynnu yn ôl.

(6)Pan fo—

(a)gorchymyn cyfrannu mewn grym,

(b)yr awdurdod yn cyflwyno hysbysiad cyfrannu arall, ac

(c)y cyfrannwr a’r awdurdod yn dod i gytundeb o dan baragraff 2(7) mewn perthynas â’r hysbysiad cyfrannu arall hwnnw,

effaith y cytundeb yw disodli’r gorchymyn o’r dyddiad y cytunir bod y cytundeb i ddod yn effeithiol.

(7)Pan ddeuir i gytundeb yn yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (6) rhaid i’r awdurdod hysbysu’r llys—

(a)am y cytundeb, a

(b)am y dyddiad y daeth yn effeithiol.

(8)Caniateir i orchymyn cyfrannu gael ei amrywio neu ei ddirymu ar gais y cyfrannwr neu’r awdurdod.

(9)Mewn achos cyfreithiol ar gyfer amrywio gorchymyn cyfrannu, rhaid i’r awdurdod bennu—

(a)y swm wythnosol, gan roi sylw i baragraff 2, y mae’n bwriadu y dylai’r cyfrannwr ei gyfrannu o dan y gorchymyn fel y bydd yn cael ei amrywio, a

(b)y trefniadau arfaethedig ar gyfer talu.

(10)Pan fo gorchymyn cyfrannu wedi ei amrywio—

(a)ni chaiff y gorchymyn bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r un a bennwyd gan yr awdurdod yn yr achos cyfreithiol ar gyfer ei amrywio, a

(b)rhaid i’r gorchymyn gael ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

(11)Ceir gwneud apêl yn unol â rheolau’r llys yn erbyn unrhyw orchymyn a wneir o dan y paragraff hwn.

[F3(12)Bydd gorchymyn cyfrannu mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Gorfodi gorchmynion cyfraniadau etcLL+C

4F4(1). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)Pan fo cyfrannwr wedi cytuno, neu wedi cael ei orchymyn, i wneud cyfraniadau i awdurdod lleol , caiff unrhyw awdurdod lleol arall [F5neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r cyfrannwr yn byw yn ei ardal am y tro—

(a)ar gais yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfrannu, a

(b)yn ddarostyngedig i gytundeb ynghylch unrhyw swm sydd i’w ddidynnu mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarparwyd,

gasglu oddi wrth y cyfrannwr unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus ar ran yr awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad.

(4)Mae’r pŵer i gasglu symiau o dan is-baragraff (3) yn cynnwys pŵer i—

(a)cael unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus a rhoi rhyddhad rhag eu talu, a

(b)(os yw’n angenrheidiol) gorfodi unrhyw gyfraniadau i gael eu talu,

er ei bod yn bosibl bod y cyfraniadau hynny wedi dod yn ddyledus ar adeg pan roedd y cyfrannwr yn byw yn rhywle arall.

(5)Mae unrhyw gyfraniad a gesglir o dan is-baragraff (3) i’w dalu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad y cytunwyd arno) i’r awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfraniadau.

(6)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae dogfen—

(a)sy’n honni ei bod yn gopi o orchymyn a wnaed gan lys o dan neu yn rhinwedd paragraff 3, a

(b)sy’n honni ei bod wedi ei hardystio’n wir gopi gan y swyddog dynodedig i’r llys,

i’w derbyn fel tystiolaeth o’r gorchymyn.

(7)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y clerc neu gan ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol a hwnnw’n swyddog i’r awdurdod lleol a sicrhaodd y gorchymyn cyfrannu, a

(c)sy’n nodi bod unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod o dan y gorchymyn yn orddyledus a heb ei dalu,

i’w derbyn fel tystiolaeth bod y swm yn orddyledus a heb ei dalu.

RheoliadauLL+C

5Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)yr ystyriaethau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu—

(i)a yw’n rhesymol adennill cyfraniadau, a

(ii)yr hyn y dylai’r trefniadau ar gyfer talu fod;

(b)y gweithdrefnau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn wrth ddod i gytundeb â’r canlynol—

(i)cyfranwyr (o dan baragraffau 2 a 3), a

(ii)unrhyw awdurdod lleol arall (o dan baragraff 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Cyflwyno hysbysiad cyfrannuLL+C

6(1)Caniateir i hysbysiad cyfrannu y mae’n ofynnol ei gyflwyno i gyfrannwr o dan yr Atodlen hon gael ei gyflwyno i’r cyfrannwr—

(a)drwy ei ddosbarthu’n bersonol i’r cyfrannwr, neu

(b)drwy ei anfon at y cyfrannwr—

(i)drwy wasanaeth post cofrestredig (fel y diffinnir “registered post service” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000), neu

(ii)drwy wasanaeth post sy’n darparu i ddosbarthiad y ddogfen gael ei gofnodi.

(2)At ddibenion adran 7 o Ddeddf Ddehongli 1978 o ran ei chymhwyso i’r paragraff hwn, cyfeiriad priodol cyfrannwr yw cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfrannwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)