RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Gadael gofal, llety a maethu

I2I1C1109Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2

1

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 ddiogelu a hyrwyddo llesiant y person hwnnw ac, oni chaiff ei fodloni nad yw’n ofynnol i lesiant y person, cynorthwyo’r person drwy—

a

cynnal y person,

b

darparu llety addas i’r person, neu ei gynnal mewn llety o’r fath, ac

c

darparu cymorth o unrhyw ddisgrifiadau eraill a bennir mewn rheoliadau.

2

Caiff cymorth o dan is-adran (1) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.

3

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyr “llety addas” ac yn benodol ynghylch addasrwydd landlordiaid neu ddarparwyr llety eraill.

4

Mae adran 78(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon fel y bo’n gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau y cyfeiriwyd atynt yn yr adran honno.