RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodol

I1I2121Asesu plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol

1

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol—

a

am gyfnod olynol o dri mis o leiaf, neu

b

gyda’r bwriad, ar ran y person sy’n gwneud y penderfyniad i letya’r plentyn, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

2

Rhaid i’r person sy’n rhedeg y sefydliad o dan sylw hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad yn cael ei redeg yn ei ardal—

a

ei fod yn lletya’r plentyn, a

b

pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

3

Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod—

a

asesu’r plentyn o dan adran 21, a

b

ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

4

Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (3)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

a

awdurdod lleol,

b

awdurdod lleol yn Lloegr,

c

awdurdod lleol yn yr Alban, neu

d

ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

5

Os yw person sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn methu, heb reswm resymol, â chydymffurfio â’r adran hon, bydd yn euog o drosedd.

6

Caiff person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol gael mynediad i gartref gofal neu ysbyty annibynnol o fewn ardal yr awdurdod at ddiben pennu a ydynt wedi cydymffurfio â gofynion yr adran hon.

7

Rhaid i berson sy’n arfer pŵer mynediad, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos bod ganddo awdurdodiad i wneud hynny.

8

Mae unrhyw berson sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad yn euog o drosedd.

9

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn atebol ar gollfarn diannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.