Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

141Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion o dan adran 140LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y gorchymyn drafft arfaethedig â’r canlynol—

(a)pob partner Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â hi,

(b)yr Ysgrifennydd Gwladol, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y gorchymyn drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl yr ymgynghoriad hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen i wneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid iddynt osod gorchymyn drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)O ran gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3)—

(a)rhaid iddo fynd gyda datganiad gan Weinidogion Cymru yn rhoi manylion unrhyw wahaniaethau rhwng y gorchymyn drafft yr ymgynghorwyd arno o dan is-adran (1) a’r gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3), a

(b)ni chaniateir iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 196(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 60 niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y gorchymyn drafft, ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 141 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)