RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

171Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyried cwynion ynghylch—

a

y modd y mae awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;

b

y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny;

c

y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdod lleol neu berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG (o fewn ystyr “NHS body” yn yr adran berthnasol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

2

Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn yn cael ei hystyried gan un neu fwy o’r canlynol—

a

yr awdurdod lleol y gwneir y gŵyn amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;

b

panel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;

c

unrhyw berson neu gorff arall ac eithrio un o Weinidogion y Goron.

3

Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn neu unrhyw fater arall a godir gan y gŵyn—

a

yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r gŵyn neu’r mater o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ac yn cael ei thrin neu ei drin fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan adran 2(3) o’r Ddeddf honno);

b

yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff arall er mwyn i’r person neu’r corff hwnnw ystyried p’un a yw am gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai sydd i’w cymryd o dan y rheoliadau.

4

Ond ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion y gellir eu hystyried yn sylwadau o dan adran 174 neu 176.