RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion gofalwr am gymorth

I2I144Darpariaeth atodol ynghylch y dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofalwr

1

Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r dyletswyddau o dan adrannau 40 a 42.

2

Caiff diwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth olygu darparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, hyd yn oed pan na fo unrhyw ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person am y gofal a’r cymorth hwnnw o dan adran 35 neu 37.

3

Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol drwy adran 40 neu 42 ddiwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth, ond nad yw’n ddichonadwy iddo wneud hynny drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, rhaid iddo, i’r graddau y mae’n ddichonadwy iddo wneud hynny, ganfod rhyw fodd arall o wneud hynny.