xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion gofalwr am gymorthLL+C

44Darpariaeth atodol ynghylch y dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofalwrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r dyletswyddau o dan adrannau 40 a 42.

(2)Caiff diwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth olygu darparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, hyd yn oed pan na fo unrhyw ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person am y gofal a’r cymorth hwnnw o dan adran 35 neu 37.

(3)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol drwy adran 40 neu 42 ddiwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth, ond nad yw’n ddichonadwy iddo wneud hynny drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, rhaid iddo, i’r graddau y mae’n ddichonadwy iddo wneud hynny, ganfod rhyw fodd arall o wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 44 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)