xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Taliadau uniongyrcholLL+C

52Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth o dan adran 40, 42 neu 45.

(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i daliadau o’r fath gael eu gwneud neu ganiatáu iddynt gael eu gwneud oni chaiff amodau 1 i 4 eu cyflawni.

(3)Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i’r gofalwr y mae arno anghenion am gymorth (“C”).

(4)Amod 2 yw—

(a)pan fo C yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan C, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan C, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;

(b)pan fo C yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan C ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.

(5)Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C, a

(b)bod gan C allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i C).

(6)Amod 4 yw bod C wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.

(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 52 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)