Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

63Dyletswydd i gynnal asesiad ariannolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno o dan adran 59, pe bai’n diwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol asesu lefel adnoddau ariannol y person er mwyn dyfarnu a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person dalu’r ffi safonol (ond mae hynny’n ddarostyngedig i adran 65).

(3)Yn y Rhan hon ystyr “ffi safonol” yw’r swm y byddai awdurdod lleol yn ei godi o dan adran 59 pe na châi unrhyw ddyfarniad ei wneud o dan adran 66 ynghylch gallu person i dalu’r swm hwnnw.

(4)Cyfeirir at asesiad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “asesiad ariannol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 63 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)