Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

64Rheoliadau am asesiadau ariannolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau ariannol ac mewn perthynas â’u cynnal.

(2)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cyfrifo incwm;

(b)cyfrifo cyfalaf.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd ar gyfer y materion canlynol (ymhlith materion eraill)—

(a)trin, neu beidio â thrin, symiau o fath penodedig fel incwm neu fel cyfalaf;

(b)achosion neu amgylchiadau lle y mae person i’w drin fel un a chanddo adnoddau ariannol sy’n uwch na lefel benodedig (a’r rhain yn achosion neu’n amgylchiadau a all gynnwys, er enghraifft, achosion lle y mae’r person sy’n cael ei asesu wedi methu â darparu i’r awdurdod lleol, pan ofynnwyd iddo wneud hynny, wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth);

(c)achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid neu y caniateir i asesiad ariannol newydd gael ei gynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 64 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)