RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL
Codi ffioedd am ddiwallu anghenion
I1I268Cytundebau ar daliadau gohiriedig
1
Caiff rheoliadau bennu ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau neu amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid i awdurdod lleol, ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig gyda pherson y mae’n ofynnol iddo (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) dalu ffi o dan adran 59.
2
Mae cytundeb ar daliad gohiriedig yn gytundeb—
a
y mae’r awdurdod lleol yn cytuno odano i beidio â’i gwneud yn ofynnol i swm gofynnol y person gael ei dalu tan yr amser sy’n cael ei bennu yn y rheoliadau neu ei ddyfarnu’n unol â hwy, a
b
y mae’r person yn cytuno odano i roi i’r awdurdod lleol arwystl dros fuddiant y person yn ei gartref i sicrhau bod swm gofynnol y person yn cael ei dalu.
3
Swm gofynnol y person yw’r hyn o’r ffi y mae’n ofynnol i’r person (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) ei dalu o dan adran 59 ag a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.
4
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i’r awdurdod lleol godi—
a
llog ar swm gofynnol y person;
b
unrhyw swm cysylltiedig â chostau gweinyddol yr awdurdod lleol a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;
c
llog ar swm a godir o dan baragraff (b).
5
Caiff y rheoliadau ddarparu bod y llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(a) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.
6
Caiff y rheoliadau—
a
pennu costau sydd, neu nad ydynt, i’w hystyried yn gostau gweinyddol at ddibenion is-adran (4)(b);
b
darparu bod swm y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(b) neu fod llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(c) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.
7
Ni chaiff yr awdurdod lleol godi llog o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (4) yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.
8
Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch hyd y cytundeb ac ar gyfer ei derfynu gan y naill barti neu’r llall; rhaid i’r rheoliadau, ymhlith pethau eraill, alluogi’r person i’w derfynu a therfynu’r arwystl y mae’n rhoi effaith iddo drwy—
a
hysbysu’r awdurdod lleol, a
b
talu i’r awdurdod y swm llawn y mae’r person yn atebol i’w dalu mewn cysylltiad â swm gofynnol y person ac unrhyw swm a godir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4).
9
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth am hawliau a rhwymedigaethau’r awdurdod lleol a’r person pan fo’r person yn gwaredu’r buddiant y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef ac yn caffael buddiant mewn eiddo arall yng Nghymru neu Loegr; caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—
a
i’r awdurdod lleol beidio â’i gwneud yn ofynnol i’r symiau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (8)(b) gael eu talu tan yr amser a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy, a
b
i’r person roi i’r awdurdod lleol arwystl dros ei fuddiant yn yr eiddo arall.
10
Mae cyfeiriad at gartref person yn gyfeiriad at yr eiddo y mae’r person yn ei feddiannu fel ei unig neu brif breswylfa; ac mae cyfeiriad at fuddiant person mewn eiddo yn gyfeiriad at fuddiant cyfreithiol neu lesiannol y person yn yr eiddo hwnnw.
11
Caiff rheoliadau gymhwyso’r adran hon, gydag addasiadau neu hebddynt, er mwyn galluogi person i gytuno i roi arwystl dros fuddiant y person mewn eiddo yng Nghymru neu Loegr yr oedd yn arfer ei ddefnyddio fel ei unig neu brif breswylfa.