Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

88Rheoliadau ynghylch amodau lle y caniateir i blentyn sydd mewn gofal fyw gyda rhiant etcLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion ar awdurdod lleol ynghylch—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad i ganiatáu i blentyn sydd yn ei ofal i fyw gydag unrhyw berson sy’n dod o fewn adran 81(3) (gan gynnwys gofynion o ran y rheini y mae’n rhaid ymgynghori â hwy cyn gwneud y penderfyniad a’r rheini y mae’n rhaid eu hysbysu pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud);

(b)goruchwylio neu gynnal ymchwiliad meddygol ar y plentyn o dan sylw;

(c)symud y plentyn, o dan y fath amgylchiadau a gaiff eu pennu mewn rheoliadau, o ofal y person y rhoddwyd caniatâd i’r plentyn fyw gydag ef;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 88 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)