RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal

I1I290Rheoliadau ynghylch lleoliadau y tu allan i ardal

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy—

a

cyn i blentyn sy’n derbyn gofal ganddynt dderbyn llety mewn man y tu allan i ardal yr awdurdod, neu

b

os yw llesiant y plentyn yn gofyn bod llety o’r fath yn cael ei ddarparu’n syth, o fewn unrhyw gyfnod penodedig wedi i’r llety hwnnw gael ei ddarparu.