xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY GWEITHLU ADDYSG

Dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

33Y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodolLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal unrhyw gofnodion am unrhyw bersonau a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—

(a)wneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys y cofnodion, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ynghylch personau nad ydynt yn gymwys i’w cofrestru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 33 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(u)

34Rhoi gwybodaeth: GweinidogionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â phersonau cofrestredig unigol—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn Gweinidogion Cymru i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

(2)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag athrawon unigol mewn ysgolion—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I4A. 34 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(q)

35Rhoi gwybodaeth: y CyngorLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol ganddynt.

(2)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson cofrestredig, ddarparu i’r person hwnnw gopi o’r wybodaeth a roddwyd yn y gofrestr wrth enw’r person hwnnw.

(3)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson (ac eithrio person cofrestredig) y mae’n cynnal cofnodion mewn cysylltiad ag ef yn unol ag adran 33, ddarparu i’r person hwnnw gopi o unrhyw gofnodion y mae’n eu cadw amdano.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth—

(a)i unrhyw berson neu gorff arall a bennir, a

(b)at unrhyw ddibenion ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I6A. 35 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(v)

36Rhoi gwybodaeth: cyflogwyrLL+C

(1)Rhaid i gyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor—

(a)enw unrhyw berson cofrestredig y mae’n ei gyflogi neu y mae’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru, a

(b)unrhyw wybodaeth arall am unrhyw berson cofrestredig sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Cyngor mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau.

(2)Pan fo cyflogwr perthnasol—

(a)yn peidio â defnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(b)wedi gallu peidio â defnyddio gwasanaethau’r person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3) pe na bai’r person hwnnw wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

rhaid i’r cyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Y seiliau yw—

(a)ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(b)anghymhwysedd proffesiynol;

(c)collfarn am drosedd berthnasol.

(4)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I8A. 36 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(w)

37Rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i drefniadau a wneir gan un person (yr “asiant”) i berson cofrestredig ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (p’un ai o dan gontract ai peidio).

(2)Pan fo asiant—

(a)wedi terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3),

(b)wedi gallu terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi eu terfynu, neu

(c)wedi gallu atal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer y person cofrestredig ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi peidio â chynnig darparu’r gwasanaethau,

rhaid i’r asiant ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn yr adran hon, mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I10A. 37 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(x)

38Cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn—

(a)bod cyflogwr perthnasol wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 36, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno, neu

(b)bod asiant wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 37, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cyflogwr neu (yn ôl y digwydd) yr asiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan adran (2), ar gais Gweinidogion Cymru, gael ei orfodi drwy waharddeb.

(4)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I12A. 38 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(r)