Deddf Addysg (Cymru) 2014

Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredig

17Gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol, neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, fod person wedi cwblhau unrhyw gyfnod sefydlu yn foddhaol mewn man neu leoliad o unrhyw ddisgrifiad a bennir cyn y caniateir i’r person hwnnw gofrestru (ac eithrio ar sail dros dro).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i berson gael ei esemptio o’r gofyniad ei fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol;

(b)ynghylch y cyfnod a’r broses sefydlu gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(i)y cyfnodau o gyflogaeth y caniateir iddynt gael eu cyfrif fel rhan o’r cyfnod sefydlu;

(ii)y cymeradwyaethau y caniateir iddynt fod yn ofynnol cyn y caiff person ymgymryd â chyfnod sefydlu;

(iii)yr amgylchiadau pan nad yw’r sefydlu i ddigwydd mewn man neu leoliad o ddisgrifiad penodedig;

(iv)yr amgylchiadau pan gaiff person ymgymryd â mwy nag un cyfnod sefydlu;

(c)ynghylch hyfforddi a goruchwylio person yn ystod cyfnod sefydlu;

(d)ynghylch asesu personau sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu, gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n pennu’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am benderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol (“y corff priodol”);

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth perthnasol wneud argymhelliad i’r corff priodol o ran a yw’r person wedi bodloni’r safonau gofynnol y penderfynir arnynt o dan adran 18;

(iii)sy’n pennu amgylchiadau pan gaiff y corff priodol benderfynu y dylid estyn cyfnod sefydlu person neu pan fo rhaid i’r corff priodol benderfynu estyn y cyfnod hwnnw;

(e)ynghylch y canlyniadau yn sgil cwblhau cyfnod sefydlu gan berson (p’un ai yn foddhaol ai peidio), gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff priodol hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Cyngor pan fydd person wedi cwblhau cyfnod sefydlu neu fod y cyfnod hwnnw wedi ei estyn;

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr person nad yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol derfynu cyflogaeth y person neu fel arall sicrhau bod y person yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gyfer y cyflogwr;

(iii)sy’n ei gwneud yn ofynnol mai dim ond y gwasanaethau perthnasol hynny y penderfynir arnynt yn unol â’r rheoliadau y caiff y person eu darparu ar gyfer ei gyflogwr;

(f)ynghylch unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chyfnodau sefydlu sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru, gan gynnwys (er enghraifft) ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff priodol nad yw’n awdurdod lleol gynnwys cynrychiolydd o awdurdod o’r fath,

(ii)sy’n rhoi swyddogaethau pellach ar y corff priodol, a

(iii)sy’n awdurdodi’r corff priodol, mewn unrhyw amgylchiadau a bennir, i godi unrhyw daliadau mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau y mae’n penderfynu arnynt.

(3)Rhaid i berson neu gorff sy’n arfer swyddogaeth o dan yr adran hon neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tani roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

18Safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y safonau y mae person i’w asesu yn unol â hwy at y diben o benderfynu p’un a yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu o dan adran 17 yn foddhaol ai peidio.

(2)Caniateir i safonau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor cyn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon.

19Apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad y corff priodol o dan adran 17(2)(d) apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2)Mae unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl o’r fath yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag apelau o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

20Sefydlu: pwerau ymyrryd

(1)Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol) yn cael effaith mewn perthynas â dyletswyddau a osodir a phwerau a roddir yn rhinwedd adran 17 fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod lleol yn cynnwys—

(a)corff llywodraethu (o fewn yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) sefydliad addysg bellach, a

(b)corff priodol ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol arbennig nas cynhelir felly neu awdurdod lleol.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 yn orfodadwy drwy waharddeb (yn hytrach na gorchymyn gorfodol) ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.

(3)Nid yw’r adran hon yn rhagfarnu Rhan 2 o Ddeddf 2013 fel y mae’n gymwys i—

(a)cyrff llywodraethu—

(i)ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru,

(ii)ysgolion arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly, a

(b)awdurdodau lleol yng Nghymru,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddyletswyddau a osodir arnynt neu unrhyw bwerau a roddir iddynt yn rhinwedd adran 17.

21Sefydlu: dehongli

At ddibenion adrannau 17 i 20—

  • mae “corff priodol” i’w ddehongli yn unol ag adran 17(2)(d);

  • ystyr “pennaeth perthnasol” yw—

    (a)

    pennaeth ysgol,

    (b)

    pennaeth sefydliad addysg bellach, ac

    (c)

    unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

22Darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—

(a)wedi ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol berthnasol a gynhelir gyda’r bwriad o ddod yn athro neu athrawes ysgol neu’n weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol,

(b)heb gwblhau’n foddhaol y cyfnod sefydlu hwnnw, ac

(c)yn unol â gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 17(2)(e)(iii), dim ond yn darparu’r gwasanaethau perthnasol hynny yn yr ysgol y penderfynwyd arnynt yn unol â’r rheoliadau.

(2)Nid yw unrhyw gostau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â thâl y person i gael eu talu o gyfran yr ysgol o’r gyllideb ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ac eithrio i’r graddau y mae gan yr awdurdod reswm da dros ddidynnu’r costau hynny, neu unrhyw ran o’r costau hynny, o’r gyfran honno.

(3)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “cyfnod sefydlu” yw cyfnod sefydlu sy’n ofynnol o dan reoliadau o dan adran 17(1);

(b)ystyr “ysgol berthnasol a gynhelir” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru sydd â chyllideb ddirprwyedig;

(c)mae i gyfeiriad at gyfran yr ysgol o’r gyllideb neu at y ffaith bod gan ysgol gyllideb ddirprwyedig yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

23Gwerthuso personau cofrestredig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berfformiad personau cofrestredig gael ei werthuso—

(a)mewn dull a bennir gan y rheoliadau, a

(b)ar adegau a bennir gan y rheoliadau neu y penderfynir arnynt yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod dyletswydd ar—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach;

(c)unrhyw gyflogwr arall personau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol;

(d)pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad addysg bellach;

(e)unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb gyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i werthusiad gael ei gynnal mewn dull sy’n rhoi disgresiwn ar berson a bennir gan y rheoliadau neu a ddewisir neu y penderfynir arno yn unol â hwy;

(b)caniatáu i berson y mae dyletswydd wedi ei gosod arno o dan is-adran (2) ddirprwyo’r ddyletswydd honno yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i berson a restrir yn is-adran (2) roi sylw i ganlyniadau gwerthusiad wrth gyflawni swyddogaeth a bennir gan y rheoliadau.

(5)Caniateir i ganlyniadau gwerthusiad gael eu defnyddio i benderfynu ar dâl athro neu athrawes ysgol.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weindiogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.