Search Legislation

Deddf Addysg (Cymru) 2014

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg (Cymru) 2014, Croes Bennawd: Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Swyddogaethau disgyblu’r CyngorLL+C

26Swyddogaethau disgybluLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor gynnal unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol yn ei farn ef mewn achosion—

(a)pan honnir bod person cofrestredig—

(i)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(ii)wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) o drosedd berthnasol, neu

(b)pan ymddengys i’r Cyngor y gall person cofrestredig fod yn euog yn y fath fodd neu ei fod wedi ei gollfarnu yn y fath fodd.

(2)Rhaid i’r Cyngor benderfynu, ar ôl cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), pa gamau pellach i’w cymryd mewn cysylltiad â’r achos.

(3)Y camau y caiff y Cyngor eu cymryd yw—

(a)os yw o’r farn nad oes achos i’w ateb, peidio â pharhau â’r achos;

(b)os yw o’r farn bod (neu y gall fod) achos i’w ateb—

(i)cynnal gwrandawiad mewn cysylltiad â’r achos, neu

(ii)gyda chydsyniad y person y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef, penderfynu’r achos heb wrandawiad;

(c)peidio â pharhau â’r achos ar ryw sail arall.

(4)Pan fo’r Cyngor yn cynnal gwrandawiad neu fod y person wedi cydsynio i’r achos gael ei benderfynu heb wrandawiad, caiff y Cyngor benderfynu—

(a)nad oes achos i’w ateb;

(b)bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu ei fod wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol.

(5)Pan fo’r Cyngor yn penderfynu bod person—

(a)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(b)wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol,

caiff y Cyngor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person hwnnw.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan yr adran hon neu gyfyngu arnynt mewn unrhyw ddull a bennir yn y rheoliadau neu y penderfynir arno oddi tanynt.

(7)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (6) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru neu gyfyngu arnynt gyda’r bwriad o roi ystyriaeth i’r pwerau sy’n arferadwy gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 26 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(o)

27Swyddogaethau disgyblu: dehongliLL+C

(1)At ddibenion adran 26—

  • mae “person cofrestredig” yn cynnwys—

    (a)

    person a oedd wedi ei gofrestru ar adeg unrhyw ymddygiad neu drosedd honedig (p’un ai o dan adran 9 neu o dan adran 3 o Ddeddf 1998), a

    (b)

    person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru felly;

  • ystyr “trosedd berthnasol”, mewn perthynas â pherson cofrestredig, yw—

    (a)

    mewn achos o gollfarn yn y Deyrnas Unedig, trosedd ac eithrio un nad oes ganddi berthnasedd o bwys i addasrwydd y person i fod yn berson cofrestredig yn y categori cofrestru perthnasol;

    (b)

    mewn achos o gollfarn yn rhywle arall, trosedd a fyddai, pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn drosedd fel y’i crybwyllir ym mharagraff (a).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “gorchymyn disgyblu” yw—

(a)cerydd;

(b)gorchymyn cofrestru amodol;

(c)gorchymyn atal dros dro;

(d)gorchymyn gwahardd.

(3)Pan fo rheoliadau o dan baragraff 12(1)(b) o Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu pwyllgor at y diben o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan adran 26, mae cyfeiriadau yn yr adran honno at y Cyngor i’w dehongli yn gyfeiriadau at y pwyllgor hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I4A. 27 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(p)

28Swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau’r Cyngor neu mewn cysylltiad â hwy o dan adran 26.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth, yn benodol, ynghylch—

(a)y weithdrefn sy’n ymwneud ag unrhyw ymchwiliad neu drafodion (gan gynnwys gofynion hysbysu, gorfodi presenoldeb, derbynioldeb tystiolaeth a gweinyddu llwon);

(b)gorchmynion disgyblu (gan gynnwys gofynion cyflwyno, pan fydd gorchmynion yn cymryd effaith ac adolygu gorchmynion);

(c)y camau y caniateir iddi fod yn ofynnol i gyflogwr person sy’n cael gorchymyn disgyblu eu cymryd ac y caniateir iddynt fod yn ofynnol mewn perthynas â’r cyflogwr hwnnw (gan gynnwys diswyddo’r sawl sy’n cael y gorchymyn).

(3)Nid yw i fod yn ofynnol i unrhyw berson yn rhinwedd y rheoliadau o dan yr adran hon roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu unrhyw beth arall na ellid gorfodi’r person hwnnw i’w rhoi neu i’w dangos mewn trafodion sifil mewn unrhyw lys yng Nghymru a Lloegr.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I6A. 28 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(q)

29Gorchmynion cofrestru amodolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)O ran y person—

(a)mae’n parhau yn gymwys i’w gofrestru o dan adran 9, ond

(b)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n berthnasol i gyflogaeth y person fel person cofrestredig a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff yr amodau a bennir (ymhlith pethau eraill)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd unrhyw gamau penodedig a fydd, ym marn y Cyngor, yn helpu’r person i ddod yn berson cofrestredig medrus;

(b)ymwneud â gwariant ar ran y person.

(4)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn cofrestru amodol i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(5)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn cofrestru amodol, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(6)Rhaid i gais o dan is-adran (5) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I8A. 29 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(r)

I9A. 29 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(m)

30Gorchmynion atal dros droLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 am y cyfnod a bennir yn y gorchymyn (nad yw’n fwy na dwy flynedd).

(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu amodau i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy ac, yn yr achos hwnnw—

(a)mae’r person i ddod yn gymwys unwaith eto i’w gofrestru o dan adran 9 ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-adran (3) os yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, a

(b)os nad yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, mae’r person yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru hyd nes y bydd wedi cydymffurfio â’r amodau.

(5)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn atal dros dro i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(6)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn atal dros dro, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(7)Rhaid i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I11A. 30 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(s)

I12A. 30 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(n)

31Gorchmynion gwaharddLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn gwahardd wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9.

(4)Caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn gwahardd, benderfynu bod person yn gymwys i’w gofrestru unwaith eto.

(5)Rhaid i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

(6)Ni chaniateir i gais o’r fath gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith neu unrhyw gyfnod hwy a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I14A. 31 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(t)

I15A. 31 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(o)

32Apelau yn erbyn gorchmynion disgybluLL+C

(1)Caiff person y mae gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef apelio yn erbyn y gorchymyn i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad i’r person.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I17A. 32 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(p)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources