TrafodionLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
14(1)Caiff y Cyngor reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau (ac eithrio i’r graddau y mae’r Atodlen hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn darparu fel arall).
(2)Nis effeithir ar ddilysrwydd trafodion y Cyngor gan—
(a)unrhyw swyddi gwag o ran ei aelodau;
(b)unrhyw ddiffyg wrth benodi aelod;
(c)anghymwyso person fel aelod ar ôl ei benodi.
(3)Rhaid i’r Cyngor roi unrhyw gopïau o unrhyw ddogfennau a ddosberthir i’w aelodau neu ei bwyllgorau i Weinidogion Cymru y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)