RHAN 4DARPARIAETH GYFFREDINOL
I147Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) yn arferadwy drwy offeryn statudol ac mae’n cynnwys y pŵer i—
a
gwneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi, a
b
gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol gan gynnwys, yn benodol, gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.
2
Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall)—
a
gorchymyn o dan adran 5;
b
gorchymyn o dan adran 10(6);
c
rheoliadau o dan adran 12;
d
gorchymyn o dan adran 46 sy’n cynnwys darpariaeth sy’n ychwanegu at destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn diwygio’r testun neu’n ei hepgor;
e
gorchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 1 neu baragraff 2 o Atodlen 2,
gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
3
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) i fod yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.