xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (cyffredinol neu benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
(2)Ni chaniateir i gyfarwyddyd gael ei roi mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)cais penodol i gofrestru o dan adran 9;
(b)apêl sy’n ymwneud â chais o’r fath;
(c)achos disgyblu penodol o dan adran 26.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon mewn unrhyw ddull sy’n briodol yn eu barn hwy.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd (ac mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen sy’n amrywio neu’n dirymu cyfarwyddyd fel y mae’n gymwys i gyfarwyddyd).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 6 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(d)