Cofnodion
7Dyletswydd ar gyflogwyr i gadw cofnodion
1
At ddibenion y Ddeddf hon, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol—
a
cadw, ar y ffurf ac yn y modd a bennir, y cofnodion hynny a bennir, a
b
diogelu’r cofnodion hynny am y cyfnod hwnnw a bennir.
2
Yn yr adran hon, ystyr “a bennir” yw wedi ei bennu yn y rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).