Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

Gorchmynion cyflogau amaethyddol

3Gorchmynion cyflogau amaethyddol

(1)Mae gorchymyn cyflogau amaethyddol yn orchymyn sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraddau tâl isaf gweithwyr amaethyddol ac ynghylch telerau ac amodau cyflogaeth eraill y gweithwyr hynny.

(2)Caiff gorchymyn cyflogau amaethyddol, yn benodol, gynnwys darpariaeth—x

(a)sy’n pennu’r cyfraddau tâl isaf sydd i’w talu i weithwyr amaethyddol (gan gynnwys cyfraddau ar gyfer cyfnodau pan fo gweithwyr o’r fath yn absennol o ganlyniad i salwch neu anaf);

(b)ynghylch unrhyw fuddion neu fanteision y caniateir iddynt, at ddibenion cyfradd tâl isaf, gael eu hystyried yn dâl yn lle taliad arian parod;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol ganiatáu i weithwyr o’r fath gymryd unrhyw wyliau ac absenoldeb arall a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff gorchymyn cyflogau amaethyddol bennu cyfraddau gwahanol a gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gweithwyr amaethyddol o ddisgrifiadau gwahanol.

(4)Ni chaniateir i orchymyn cyflogau amaethyddol gynnwys unrhyw ddarpariaeth ynghylch pensiynau gweithwyr amaethyddol.

(5)Ni chaniateir pennu cyfradd tâl isaf mewn gorchymyn o dan yr adran hon sy’n llai na’r isafswm cyflog cenedlaethol.

4Gorchmynion cyflogau amaethyddol: pwerau Gweinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael gorchymyn cyflogau amaethyddol drafft oddi wrth y Panel—

(a)cymeradwyo a gwneud y gorchymyn, neu

(b)cyfeirio’r gorchymyn yn ôl at y Panel i’w ystyried ymhellach a’i ailgyflwyno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, o’u pen a’u pastwn eu hunain, wneud gorchmynion cyflogau amaethyddol hyd nes bod y Panel wedi ei sefydlu.

(3)Cyn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau neu’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y gorchymyn yn eu barn hwy.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cyflogau amaethyddol gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(a)ynghylch ffurf a chynnwys gorchymyn, a

(b)ynghylch y weithdrefn i’w dilyn a’r ymgynghori i’w gynnal mewn perthynas â gorchymyn.