Deddf Tai (Cymru) 2014

Ceisiadau am gymorth ac asesiadLL+C

62Dyletswydd i asesuLL+C

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynnal asesiad o achos person—

(a)os yw’r person wedi gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety,

(b)os yw’n ymddangos i’r awdurdod y gallai’r person fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, ac

(c)os nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r person.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person wedi ei asesu gan awdurdod tai lleol o dan yr adran hon ar achlysur blaenorol a bod yr awdurdod yn fodlon—

(a)nad yw amgylchiadau’r person wedi newid yn sylweddol ers i’r asesiad gael ei gynnal, a

(b)nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n cael effaith sylweddol ar yr asesiad hwnnw.

(3)Yn y Bennod hon, ystyr “ceisydd” yw person y mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys iddo.

(4)Rhaid i’r awdurdod asesu pa un a yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon ai peidio.

(5)Os yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon, rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o’r canlynol—

(a)yr amgylchiadau sydd wedi achosi i’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd;

(b)anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef;

(c)y gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;

(d)pa un a oes unrhyw ddyletswydd ar yr awdurdod i’r ceisydd ai peidio o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.

(6)Wrth gynnal asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod, a

(b)asesu pa un a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r amcan hwnnw.

(7)Caiff awdurdod tai lleol gynnal ei asesiad o’r materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6) cyn iddo benderfynu bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon.

(8)Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod dyletswydd arno i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon neu y gallai dyletswydd fod arno.

(9)Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn y ddau achos a ganlyn—

  • Achos 1 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd o dan adran 66 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben gan fod y ceisydd yn ddigartref;

  • Achos 2 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd yn adran 73 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben o dan amgylchiadau pan y gallai dyletswydd fod yn ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).

(10)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol asesu a fyddai dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ai peidio oni bai a hyd nes y bo’n adolygu ei asesiad yn unol ag is-adran (9) o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn achos 2 o’r is-adran honno; ond caniateir iddo wneud felly cyn hynny.

(11)Nid yw is-adrannau (9) a (10) yn effeithio ar gyffredinolrwydd is-adran (8).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 62 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 13

63Hysbysu am ganlyniad asesiadLL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod tai lleol hysbysu’r ceisydd am ganlyniad ei asesiad (neu unrhyw adolygiad o’i asesiad) ac, i’r graddau y bo unrhyw fater yn cael ei benderfynu yn groes i fuddiannau’r ceisydd, roi gwybod i’r ceisydd am y rhesymau dros ei benderfyniad.

(2)Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod dyletswydd arno mewn perthynas â’r ceisydd o dan adran 75, ond na fyddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod wedi rhoi sylw i berson cyfyngedig, rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (1) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar y sail honno,

(b)cynnwys enw’r person cyfyngedig,

(c)egluro pam fod y person yn berson cyfyngedig, a

(d)egluro effaith adran 76(5).

(3)Os yw’r awdurdod wedi hysbysu awdurdod tai lleol arall, neu’n bwriadu gwneud hynny, o dan adran 80 (atgyfeirio achosion), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw ar yr un pryd a rhoi gwybod iddo am y rhesymau dros hynny.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) neu (3) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd am ei hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a’r cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85), a

(b)cael ei roi ar ffurf ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

(5)Yn y Bennod hon, ystyr “person cyfyngedig” yw person—

(a)nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon,

(b)sy’n destun rheolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, ac

(c)sydd naill ai—

(i)â dim hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno, neu

(ii)â’r hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno yn amodol ar y ffaith ei fod yn ei gynnal ac yn ei letya ei hun, ynghyd ag unrhyw ddibynyddion, heb ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I4A. 63 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 14