RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr
I1I19I2064Sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael
1
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r modd y caiff awdurdod tai lleol sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—
a
drwy drefnu i berson ac eithrio’r awdurdod ddarparu rhywbeth;
b
drwy ddarparu rhywbeth ei hun;
c
drwy ddarparu rhywbeth, neu drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r ceisydd.
2
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu er mwyn sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—
a
cyfryngu;
b
taliadau ar ffurf grant neu fenthyciad;
c
gwarantau y bydd taliadau yn cael eu gwneud;
d
cefnogaeth i reoli dyled, ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent;
e
mesurau diogelwch i geiswyr sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth;
f
eiriolaeth neu gynrychiolaeth arall;
g
llety;
h
gwybodaeth a chyngor;
i
gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau eraill.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol mewn perthynas â sut y gallant hwy sicrhau neu helpu i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i geisydd ei feddiannu.
I2I2165Ystyr cynorthwyo i sicrhau
Pan fo’n ofynnol o dan y Bennod hon i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau (yn hytrach na “sicrhau”) bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—
a
mae’n ofynnol i’r awdurdod gymryd camau rhesymol i gynorthwyo, gan roi sylw (ymysg pethau eraill) i’r angen i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod;
b
nid yw’n ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai);
c
nid yw’n ofynnol i’r awdurdod ddarparu llety fel arall.
I3I2266Dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref
1
Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety addas yn peidio â bod ar gael i geisydd ei feddiannu os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—
a
o dan fygythiad o ddigartrefedd, a
b
yn gymwys i gael cymorth.
2
Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar unrhyw un neu ragor o hawliau’r awdurdod, pa un ai yn rhinwedd contract, deddfiad neu reolaeth cyfraith, i sicrhau meddiant gwag o unrhyw lety.
I4I2367Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben
1
Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 66 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) neu (4), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.
2
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref.
3
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd ai peidio)—
a
nad yw’r ceisydd bellach o dan fygythiad o ddigartrefedd, a
b
bod llety addas yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.
4
Yr amgylchiadau yw—
a
bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu yn ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a
b
bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.
5
Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adrannau (3)(b) a (4)(b) yn dechrau ar y diwrnod yr anfonir yr hysbysiad o dan adran 84 neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.
6
Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben.
I5I2468Dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol
1
Rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’w feddiannu gan geisydd y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddo hyd nes y daw’r ddyletswydd i ben yn unol ag adran 69.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd y mae gan yr awdurdod reswm i gredu y gallai fod—
a
yn ddigartref,
b
yn gymwys i gael cymorth, a
c
ag angen blaenoriaethau am lety,
o dan amgylchiadau pan nad yw’r awdurdod yn fodlon hyd yma bod y ceisydd yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac ag angen blaenoriaethol am lety.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd—
a
y mae’r awdurdod â rheswm i gredu neu yn fodlon bod ganddo angen blaenoriaethol neu y mae ei achos wedi cael ei atgyfeirio gan awdurdod tai lleol yn Lloegr o dan adran 198(1) o Ddeddf Tai 1996, a
b
y mae’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i ddod â digartrefedd i ben) yn gymwys iddo.
4
Mae’r ddyletswydd o dan yr adran hon yn codi pa un a oes unrhyw bosibilrwydd o atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall ai peidio (gweler adrannau 80 i 82).
I6I2569Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben
1
Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) (yn ddarostyngedig i is-adran (4) a (5)), (7), (8) neu (9) os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.
2
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 a bod y ceisydd wedi ei hysbysu am y penderfyniad hwnnw.
3
Yn achos ceisydd y mae adran 68(3) yn gymwys iddo, yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol—
a
wedi penderfynu bod y ddyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 wedi dod i ben a bod dyletswydd yn ddyledus neu nad yw’n ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75, a
b
wedi hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw;
ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5).
4
Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ar y sail bod yr awdurdod—
a
yn fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais, neu
b
wedi sicrhau cynnig o lety o’r math a ddisgrifir yn adran 75(3)(f) yn flaenorol.
5
Nid yw’r ddyletswydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) hyd nes y bo’r awdurdod yn fodlon hefyd bod y llety a sicrhawyd ganddo o dan adran 68 wedi bod ar gael i’r ceisydd am gyfnod digonol, gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir ef nad yw adran 75 yn gymwys, er mwyn caniatáu cyfle rhesymol i’r ceisydd sicrhau llety iddo ei feddiannu.
6
Nid yw’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (5) yn ddigonol at ddibenion yr is-adran honno os yw’n dod i ben ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd bod y ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys.
7
Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniadau posibl gwrthod, yn gwrthod cynnig o lety a sicrhawyd o dan adran 68 y mae’r awdurdod tai lleol yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.
8
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.
9
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei unig neu ei brif gartref llety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.
10
Daw’r ddyletswydd i ben yn unol â’r adran hon hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad sydd wedi arwain at ddod â’r ddyletswydd i ben (gweler adran 85).
11
Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch adolygiad.
12
Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben.
I7I2670Angen blaenoriaethol am lety
1
Mae gan y personau canlynol angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon—
a
menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;
b
person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
c
person—
i
sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
d
person—
i
sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
e
person—
i
sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
f
person—
i
sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
g
person—
i
sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
h
person—
i
sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
i
person—
i
sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu
ii
y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;
j
person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—
i
bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 F2neu adran 222 o'r Cod Dedfrydu ,
ii
bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu
iii
bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,
F7k
person—
i
sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu
ii
y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.
neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.
2
Yn y Bennod hon—
ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu” (“looked after, accommodated or fostered”) yw—
- a
yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 22 o Ddeddf Plant 1989),
- b
yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol, neu ar ran corff gwirfoddol,
- c
yn cael ei letya mewn cartref plant preifat,
- d
yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—
- i
gan unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,
- ii
gan F6fwrdd gofal integredig l neu F5GIG Lloegr , neu ar eu rhan,
- iii
gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ran y cyngor,
- iv
gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ei ran,
- v
mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu
- vi
mewn unrhyw lety a ddarperir gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau’r GIG, neu ar eu rhan, neu gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG, neu ar eu rhan, neu
- i
- e
yn cael ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).
- a
3
Yn is-adran (2)—
ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—
- a
cyngor sir yn Lloegr,
- b
cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,
- c
cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu
- d
Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;
- a
F4“ystyr “bwrdd gofal integredig” (“integrated care board”) yw corff a sefydlir o dan adran 14Z25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
F1O ran “cartref gofal” (“care home”)—
- a
mae iddo’r un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr, a
- b
ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu;
- a
F3...
mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir gan adran 597(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—
- a
mewn perthynas â Chymru, yw ysbyty annibynnol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac
- b
mewn perthynas â Lloegr, yw ysbyty, fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, nad yw’n ysbyty’r gwasanaeth iechyd (“health service hospital”) o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd gan yr adran honno.
- a
I8I2771Ystyr hyglwyf yn adran 70
1
Mae person yn hyglwyf o ganlyniad i reswm a grybwyllir ym mharagraff (c) neu (j) o adran 70(1) os, ar ôl rhoi sylw i holl amgylchiadau achos y person—
a
y byddai’r person yn llai abl i ofalu amdano ei hun (o ganlyniad i’r rheswm hwnnw), pe bai’r person yn dod yn ddigartref ac ar y stryd, na pherson digartref arferol sy’n dod yn ddigartref ac ar y stryd, a
b
y byddai’r person hwnnw, o ganlyniad, yn dioddef mwy o niwed nag y byddai person digartref arferol yn ei ddioddef;
mae’r is-adran hon yn gymwys pa un a yw’r person y mae ei gais o dan ystyriaeth yn ddigartref ac ar y stryd, neu’n debygol o ddod yn ddigartref ac ar y stryd, ai peidio.
2
Yn is-adran (1), ystyr “digartref ac ar y stryd” (“street homeless”), mewn perthynas â pherson, yw nad oes llety ar gael i’r person ei feddiannu yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—
a
â’r hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,
b
â thrwydded ddatganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu
c
yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant;
ac nid yw adrannau 55 a 56 yn gymwys i’r diffiniad hwn.
I9I17I2872Pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—
a
gwneud darpariaeth ar gyfer cael gwared ar unrhyw amod bod yn rhaid i awdurdod tai lleol fod â rheswm i gredu neu fod yn fodlon bod gan geisydd angen blaenoriaethol am lety cyn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd i sicrhau llety o dan y Bennod hon fod yn gymwys, ac mewn cysylltiad â hynny;
b
diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon;
c
pennu disgrifiadau pellach o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon.
2
Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) ddiwygio neu ddiddymu unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau y Rhan hon.
3
Cyn gwneud gorchymyn o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau ag sy’n cynrychioli cynghorau siroedd a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.
I10I2973Dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref
1
Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—
a
yn ddigartref, a
b
yn gymwys i gael cymorth.
2
Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys os yw’r awdurdod yn atgyfeirio’r cais at awdurdod tai lleol arall (gweler adran 80).
I11I3074Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben
1
Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), (3), (4), neu (5), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.
2
Yr amgylchiadau yw diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau.
3
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau, yn fodlon bod camau rhesymol wedi eu cymryd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.
4
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd neu beidio)—
a
bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, a
b
bod y llety yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.
5
Yr amgylchiadau yw—
a
bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniad posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a
b
bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.
6
Mae’r cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 ac at y diben hwn mae’r ceisydd i gael ei drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.
7
Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adran (4)(b) a (5)(b) yn dechrau ar y diwrnod y mae’r hysbysiad o dan adran 84 yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.
8
Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben.
I1275Dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben
I311
Pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) yn dod i ben mewn perthynas â cheisydd o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 74, rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu os yw is-adran (2) neu (3) (o’r adran hon) yn gymwys.
I312
Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol—
a
yn fodlon—
i
nad oes llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu
ii
bod gan y ceisydd lety addas, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,
b
yn fodlon bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,
c
yn fodlon bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety, ac
d
os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77), nad yw’n fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais;
I37I383
Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol yn rhoi sylw i ba un a yw’r ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio ac yn fodlon—
a
y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais,
b
mewn perthynas â’r ceisydd—
i
nad oes llety addas ar gael iddo i’w feddiannu, neu
ii
bod llety addas gan geisydd, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,
c
bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,
d
bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety,
e
bod y ceisydd—
i
yn fenyw feichiog neu’n berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef,
ii
yn berson y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef,
iii
yn berson nad oedd wedi cyrraedd 21 oed pan wnaed y cais am gymorth neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, neu
iv
yn berson a oedd wedi cyrraedd 21 oed, ond nid 25 oed, pan wnaed y cais am gymorth ac a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, a
f
nad yw’r awdurdod wedi sicrhau cynnig o lety i’r ceisydd o dan yr adran hon yn flaenorol yn dilyn cais blaenorol am gymorth o dan y Bennod hon, pan wnaed y cynnig hwnnw—
i
ar unrhyw bryd o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn y diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd o dan adran 63 bod dyletswydd iddo o dan yr adran hon, a
ii
ar y sail bod y ceisydd yn dod o fewn yr is-adran hon.
I314
At ddibenion is-adrannau (2)(a)(ii) a (3)(b)(ii), mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.
I13I3276Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben
1
Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.
2
Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—
a
cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), F8...
F9aa
cynnig o lety addas yng Nghymru o dan denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, neu
b
cynnig o lety addas F10(yn Lloegr) o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).
3
Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—
a
cynnig o lety interim addas o dan adran 75,
b
cynnig sector rhentu preifat, neu
c
cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,
y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.
4
At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—
F11a
os yw’n gynnig o—
i
tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas â llety yng Nghymru sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu
ii
tenantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety yn Lloegr sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,
b
os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac
c
F12mewn perthynas â llety yn Lloegr, mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.
5
Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).
6
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
a
o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
b
o dan adran 75.
7
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
a
o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
b
o dan adran 75.
8
Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.
F139
Yn yr adran hon—
mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);
mae i “tenantiaeth cyfnod penodedig” (“fixed term tenancy”) mewn perthynas â llety yn Lloegr yr ystyr a roddir i “fixed term tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
I14I3377Ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol
1
Mae person yn ddigartref yn fwriadol at ddibenion y Bennod hon os yw is-adran (2) neu (4) yn gymwys.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person yn gwneud unrhyw beth neu’n methu â gwneud unrhyw beth yn fwriadol ac o ganlyniad i hynny mae’r person yn rhoi’r gorau i feddiannu llety sydd ar gael i’r person ei feddiannu ac y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.
3
At ddibenion is-adran (2) ni chaniateir trin gweithred ddidwyll neu anwaith didwyll ar ran person nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ffaith berthnasol fel gweithred fwriadol neu anwaith bwriadol.
4
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw’r person yn ymrwymo i gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi’r gorau i feddiannu llety y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu, a
b
diben y cytundeb yw galluogi’r person i gymhwyso ar gyfer yr hawl i gymorth o dan y Bennod hon,
ac nad oes rheswm da arall pam y mae’r person yn ddigartref.
I15I18I3678Penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu categori neu gategorïau o geiswyr at ddibenion yr adran hon.
I342
Ni chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 oni bai bod—
a
y ceisydd yn dod o fewn categori a bennir o dan is-adran (1) y mae’r awdurdod wedi penderfynu, mewn perthynas â'r categori hwnnw, rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr o fewn y categori hwnnw wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a
b
yr awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad o dan baragraff (a) sy’n pennu’r categori hwnnw.
3
Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi cyhoeddi hysbysiad o dan is-adran (2) oni bai bod yr awdurdod wedi—
a
penderfynu rhoi’r gorau i roi sylw i ba un a yw ceiswyr sy’n dod o fewn y categori a bennir yn yr hysbysiad wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a
b
wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad sy’n pennu’r categori.
4
At ddibenion adran 68 a 75, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio os yw’r ceisydd yn dod o fewn categori a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr awdurdod o dan is-adran (2).
I16I3579Amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben
1
Mae’r dyletswyddau yn adrannau 66, 68, 73 a 75 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3), (4) neu (5), os yw’r ceisydd yn cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.
2
Yr amgylchiadau yw nad yw’r awdurdod tai lleol yn fodlon bellach bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth.
3
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod camgymeriad ffeithiol wedi arwain at hysbysu’r ceisydd o dan adran 63 bod y ddyletswydd yn ddyledus i’r ceisydd.
4
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi tynnu ei gais yn ôl.
5
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd yn methu â chydweithredu â’r awdurdod mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon fel y maent yn gymwys i’r ceisydd, a hynny mewn modd afresymol.