RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Hysbysiad

84Hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben

1

Pan fo awdurdod tai lleol yn penderfynu bod ei ddyletswydd i geisydd o dan adran 66, 68, 73 neu 75 wedi dod i ben (gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—

a

nad yw bellach yn ystyried ei fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd berthnasol,

b

y rhesymau pam ei fod yn ystyried bod y ddyletswydd wedi dod i ben,

c

am yr hawl i ofyn am adolygiad, a

d

am y cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo.

2

Pan fo hysbysiad o dan is-adran (1) yn ymwneud â’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 74(2) neu (3), rhaid iddo gynnwys hysbysiad am y camau a gymerwyd gan yr awdurdod tai lleol i gynorthwyo i sicrhau y byddai llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

3

Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon fod ar ffurf ysgrifenedig.

4

Pan nad yw ceisydd yn derbyn hysbysiad, caniateir trin ceisydd fel pe bai wedi ei hysbysu o dan yr adran hon os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.