101Asesu anghenion lletyLL+C
(1)Rhaid i awdurdod tai lleol, ym mhob cyfnod adolygu, gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.
(2)Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (1) rhaid i awdurdod tai lleol ymgynghori â’r cyfryw bobl sy’n briodol yn ei farn ef.
(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—
(a)y cyfnod hwnnw o flwyddyn sy’n dechrau pan ddaw’r adran hon i rym, a
[F1(b)y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod ym mharagraff (a) i ben, a phob cyfnod dilynol o 5 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod adolygu blaenorol i ben.]
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3)(b) drwy orchymyn.
Diwygiadau Testunol
F1A. 101(3)(b) wedi ei amnewid (18.3.2021) gan Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (O.S. 2021/340), erglau. 1(2), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 101 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(a)