RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL
Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol
I1I2112Canllawiau
1
Caiff Gweinidogion Cymru rhoi canllawiau—
a
sy’n berthnasol i fater yr eir i’r afael ag ef mewn safon o dan adran 111, a
b
yn ymhelaethu ar y safon.
2
Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau wrth ystyried a yw safonau wedi cael eu bodloni.
3
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
adolygu’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;
b
tynnu’r canllawiau’n ôl drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon neu drwy hysbysiad.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.