Deddf Tai (Cymru) 2014

112CanllawiauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru rhoi canllawiau—

(a)sy’n berthnasol i fater yr eir i’r afael ag ef mewn safon o dan adran 111, a

(b)yn ymhelaethu ar y safon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau wrth ystyried a yw safonau wedi cael eu bodloni.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)adolygu’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;

(b)tynnu’r canllawiau’n ôl drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 112 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1